Gwybodaeth am oedran a rhyw, y sawl a gafodd ddamwain, y math o ffordd, terfyn cyflymder, lleoliad, y math o gerbyd ac amser y ddamwain ar gyfer 2016.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Damweiniau ffyrdd cerddwyr
Gwybodaeth am y gyfres:
Pwyntiau allweddol
Pob anafusion cerddwyr
- Yn 2016, cafodd 199 o bobl eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol (KSI) ar ffyrdd Cymru. O’r rhain, roedd 14 yn angheuol ac 185 wedi eu hanafu’n ddifrifol. Cafodd 594 o anafusion cerddwyr fân-anafiadau.
- Yn 2016, roedd 793 o anafusion cerddwyr sef y ffigur isaf a gofnodwyd ers 1979.
- O’i gymharu â 2015, roedd gostyngiadau yn yr anafusion a laddwyd (36%) yr anafusion a anafwyd yn ddifrifol (1%) a’r rhai gafodd fân-anafiadau (7%) yn 2016.
- Yn 2016, roedd cerddwyr yn cyfrif am oddeutu 1 ymhob 6 o’r holl anafusion KSI (18%) ac 1 mewn 10 (10%) o holl fân-anafusion.
Plant (oedran 0 i 15) anafusion cerddwyr
- Nid oedd unrhyw farwolaethau i gerddwyr yn 2016, i lawr o 2 yn 2015.
- Roedd 55 o anafusion cerddwyr KSI a oedd yn blant yn 2016. Mae hyn yn gynnydd o 25 o’i gymharu â ffigurau 2015.
- Maent yn cyfrif am dros 30% o holl anafusion cerddwyr.
- Maent yn gysylltiedig â theithiau i'r ysgol ac oddi gyda niferoedd y damweiniau gan gyrraedd uchafbwynt o tua 8yb a 3yp yn ystod yr wythnos.
Adroddiadau
Damweiniau ffyrdd cerddwyr, 2016 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 860 KB
PDF
Saesneg yn unig
860 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.