Nifer y cleifion sy’n derbyn triniaeth ddeintyddol ar y GIG, y math o driniaeth a ddarparwyd a’r nifer o ddeintyddion GIG ar gyfer Ebrill 2017 i Fawrth 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwasanaethau deintyddol GIG
Gwybodaeth am y gyfres:
Nifer y cleifion a gafodd eu trin yn y 24 mis cyn 31 Mawrth 2018
- Cafodd 1.7 miliwn o gleifion (55.0% o’r boblogaeth) eu cofnodi fel rhai a gafodd driniaeth yn y 24 mis cyn 31 Mawrth 2018. Cafodd 52% o'r boblogaeth sy'n oedolion eu trin, gostyngiad bychan o’r cyfnod blaenorol; ynghyd â 66.9% o'r boblogaeth sy’n blant, cynydd bychan ychydig o’r cyfnod blaenorol.
Taliadau cleifion rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018
- Roedd 45.2% o’r holl CoT ar gyfer oedolion a oedd yn talu.
- Cyfanswm y taliadau gan gleifion oedd £35.5 miliwn. Mae hyn yn gynnydd o 2.1% o’i gymharu â £34.7 miliwn a dalwyd gan gleifion yn 2016-17.
Gweithgarwch rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018
- Cafodd cyfanswm o 4.9 miliwn uned o weithgarwch deintyddol eu cynnal yn 2017-18; gostyngiad o 2.7% o’i gymharu â 2016-17. Roedd hyn yn cynrychioli bron i 2.4 miliwn o gyrsiau unigol o driniaeth deintyddol o dan y GIG, gostyngiad o 0.4% o’i gymharu â 2016-17.
Y gweithlu rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018
- Roedd 1,479 o ddeintyddion wedi cofnodi gweithgarwch o dan y GIG rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018. Cyfatebai hyn â 4.7 deintydd ar gyfer pob 10,000 o’r boblogaeth, yr un peth â’r flwyddyn flaenorol.
Adroddiadau
Gwasanaethau deintyddol GIG, Ebrill 2017 i Fawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Gwasanaethau deintyddol GIG, Ebrill 2017 i Fawrth 2018: atodiad tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 86 KB
ODS
Saesneg yn unig
86 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.