Adroddiad sy'n cyflwyno data yn ôl rhyw, oedran, cyflogaeth, incwm yr aelwyd, lefel cymhwyster, yr iaith Gymraeg a lefelau llythrennedd a rhifedd ar gyfer 2010.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolwg Cenedlaethol o Sgiliau Oedolion Cymru
Cynhaliwyd yr arolwg yn ystod 2010, gan asesu sgiliau llythrennedd a rhifedd cyffredinol oedolion (16 i 65 oed) yng Nghymru (drwy gyfrwng y Saesneg), a sgiliau llythrennedd Cymraeg oedolion sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru. Cynlluniwyd yr arolygon cymaint ag oedd yn ymarferol bosibl i ailadrodd arolygon tebyg a gynhaliwyd yn 2004/05, er mwyn ystyried newidiadau o ran lefelau sgiliau.
Canlyniadau cyffredinol (o'r arolwg Saesneg)
- Bu gwelliant o ran lefelau llythrennedd: aseswyd bod gan 12% o oedolion lythrennedd Lefel Mynediad neu'n is, gostyngiad o 25% yn 2004.
- Aseswyd bod 29% o oedolion ar Lefel 1 (37% yn 2004) a 59% ar Lefel 2 neu'n uwch (cynnydd o 38% yn 2004).
- Prin yw'r newid o ran lefelau rhifedd: aseswyd bod gan 51% o oedolion rifedd Lefel Mynediad neu'n is, canran debyg i'r 53% yn 2004.
- Aseswyd bod 29% ar Lefel 1 (25% yn 2004) a 21% ar Lefel 2 neu'n uwch (22% yn 2004).
- Roedd lefelau llythrennedd a rhifedd yn uwch ymhlith pobl gyflogedig, y rheini â lefelau incwm uchel yn y cartref, y rheini â chymwysterau uwch, ac ymhlith y grwpiau oedran hŷn.
Adroddiadau
Arolwg Cenedlaethol o Sgiliau Oedolion yng Nghymru, 2010 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Prif ganlyniadau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 298 KB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Prif ganlyniadau: tablau , math o ffeil: XLS, maint ffeil: 138 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.