Cyfrif cenedlaethol o gysgu allan
Gwybodaeth ar amcangyfrif y bobl sy’n cysgu ar y stryd dros gyfnod o ddwy wythnos, a’r nifer o bobl a welwyd yn cysgu ar y stryd.
Cynnwys
Y cyhoeddiad diweddaraf
Proposals to stop the national annual rough sleeper count
Data ar gyfer Tachwedd 2020 i Tachwedd 2023
Cafodd y cyfrif cenedlaethol o gysgu allan ei atal dros dro rhwng 2020 a 2022 oherwydd pandemig coronafeirws (COVID-19). Mae’r Prif Ystadegydd wedi penderfynu atal cyfrif 2023 dros dro oherwydd bod data am gysgu allan ar gael drwy’r cyhoeddiad misol hwn am ddata digartrefedd, ac er mwyn lleihau’r galw sydd ar adnoddau awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.
Byddwn yn ystyried dyfodol hir dymor y cyfrif o gysgu allan ac yn trafod â defnyddwyr cyn cynnal y cyfrif ar gyfer 2024.