Data sy’n cyflwyno canlyniadau profion cyfanredol ar gyfer pob disgybl ym mlynyddoedd 2 i 9.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Canlyniadau Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol a'r hawl i brydau am ddim
Mae hyn yn ategu allbynnau tebyg eraill yn edrych ar yr asesiadau athrawon a chanlyniadau CA4 ac absenoldeb gan hawl i gael prydau ysgol am ddim.
Mae’r prif ganlyniadau o'r profion cenedlaethol darllen a rhifedd 2017 yn cael eu cyhoeddi ym mis Awst 2017. Mae'r Atodiad i'r datganiad hwn yn cynnwys gwybodaeth cefndir ac ansawdd pwysig ar gyfer y profion a dylid ei ddarllen ar y cyd â'r data yn y datganiad hwn.
Canlyniadau allweddol
- Ar y cyfan, mae perfformiad disgyblion sydd â hawl i brydau ysgol am ddim (eFSM) yn is na disgyblion sydd ddim a’r hawl ym mhob un o’r profion cenedlaethol.
- Mae disgyblion eFSM o gwmpas tair gwaith yn llai tebygol i gyflawni sgôr safonedig yn ôl oedran o dros 115 yn y profion cenedlaethol.
- Mae disgyblion eFSM mwy na dwywaith mwy tebygol o gyflawni sgôr safonedig yn ôl oedran o is na 85 yn y profion cenedlaethol.
- Mae’r bwlch mewn perfformiad ar gyfer sgorau safonedig yn ôl oedran rhwng 85 ac 115 yn amrywio rhwng 4 a 7 pwynt canran ar draws y gwahanol brofion. Mae hyn yn is na’r bwlch yn yr ystod sgorau ‘dros 115’ ac ‘is na 85’.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Canlyniadau Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol a'r hawl i brydau am ddim, 2017: tablau , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 23 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.