Un o rannau pwysig cyflawni ein cyfrifoldebau i ddysgwyr yw deall yn union beth yw anghenion a phrofiadau’r dysgwyr.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Felly, fe gomisiynwyd arolwg er mwyn gweld pa mor fodlon oedd dysgwyr ôl-16 ar eu profiadau dysgu.
Cynhaliwyd yr arolwg rhwng mis Gorffennaf a mis Awst 2003 a bu’n ymwneud â mwy na 6,200 o ddysgwyr o’r meysydd hyn addysg bellach, dysgu yn y gwaith a dysgu wedi’i achredu.
Cynhaliwyd cyfres o weithdai gyda darparwyr er mwyn lledaenu darganfyddion yr arolwg, gyda’r bwriad o ddefnyddio’r darganfyddion i gynorthwyo i wella’r safonau ansawdd yn eu darpariaeth eu hunain. Cafodd adroddiad ar wahân ei lunio, a oedd yn rhoi sylw amlwg i’r arferion gorau mewn amrywiaeth o feysydd, fel marchnata, cefnogi dysgwyr a rheoli dysgu.
Taflenni ffeithiau
Mae’r taflenni gwybodaeth hyn yn cyfeirio’n gyflym at y graddau bodlonrwydd ac ansawdd ar gyfer y gwahanol fathau o ddysgwr.
Mae pob un o’r taflenni gwaith yn rhoi gwybodaeth bennawd am:
- y boddhad cyffredinol gyda’r profiad o ddysgu
- y boddhad gyda’r addysgu/hyfforddiant
- yr hyn a ddisgwyliwyd o’r dysgu
- cyn dechrau ar y cwrs
- y problemau a gafwyd.