Cynlluniwyd Teuluoedd yn Gyntaf er mwyn gwella canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae’n pwysleisio ymyrryd yn fuan ac atal problemau mewn teuluoedd, yn enwedig y rheini sy’n byw mewn tlodi
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad cenedlaethol o Deuluoedd yn Gyntaf
Bydd negeseuon o’r adroddiadau yn cael eu defnyddio i lunio’r ffordd y bydd rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn cael ei chynnal yn y dyfodol.
Adroddiad blwyddyn 3
Roedd y gwerthusiad tair blynedd yn ceisio ateb nifer o gwestiynau yn ymwneud â’r rhaglen, gan gynnwys:
- a yw cynllun y rhaglen yn addas i’r diben
- asesiad o’r modd y mae’r rhaglen yn cael ei gweithredu
- safon gweithredu’r rhaglen; effaith y rhaglen ar deuluoedd
- effaith y rhaglen ar y boblogaeth yn gyffredinol.
Yn fwyaf penodol, bydd yr adroddiad hwn yn cynnwys:
- adolygiad o’r cyd-destun polisi
- adolygiad o gynnydd wrth weithredu Teuluoedd yn Gyntaf
- asesiad o effeithiau a chanlyniadau’r rhaglen, dair blynedd ers ei rhoi ar waith
- ystyriaeth o gynllun y rhaglen, ac a yw’n addas i’r diben ac yn cyflawni ei nod mewn perthynas â’r sail resymegol dros ymyrryd
- enghreifftiau o arferion da wrth weithredu Teuluoedd yn Gyntaf.
Adroddiadau
Gwerthusiad cenedlaethol o Deuluoedd yn Gyntaf: adroddiad blwyddyn 3 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Gwerthusiad cenedlaethol o Deuluoedd yn Gyntaf: adroddiad blwyddyn 3 - Atodiadau , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Gwerthusiad cenedlaethol o Deuluoedd yn Gyntaf: adroddiad blwyddyn 3 - Crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 651 KB
Cyswllt
Hayley Collicott
Rhif ffôn: 0300 025 3111
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
I gael gwybodaeth am ymchwil a gwerthuso
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am y Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf
Rhif ffôn: 0300 025 7677
E-bost: familiesfirst@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.