Gwybodaeth am achosion mewn Llysoedd Ynadon, troseddau cyffuriau ac yfed a gyrru a phrofion anadl ar gyfer 2017.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Troseddwyr moduro
Gwybodaeth am y gyfres:
Hysbysiadau cosb benodedig
- Yn 2017, rhoddodd yr heddlu a wardeiniaid traffig 76,600 o hysbysiadau cosb benodedig yng Nghymru, sef cynnydd o 0.4% o’i gymharu â 2016.
- Troseddau terfynau cyflymder oedd 77.7% (59,500) o’r rhain.
Achosion llys
- Bu 46,900 o droseddwyr moduro gerbron llysoedd ynadon yng Nghymru yn 2017. Mae hyn yn ostyngiad o 27.6% ers 2016; fodd bynnag nid yw hyn o reidrwydd yn golygu gostyngiad yn y troseddau erlynadwy a gyflawnwyd yng Nghymru.
- Y grwpiau troseddau mwyaf cyffredin oedd 'troseddau terfynau cyflymder' (14,500) a 'troseddau yswiriant cerbydau' (10,500). 'Troseddau profion cerbydau' (15) oedd y grŵp troseddau lleiaf cyffredin.
Profion anadl
- Yn 2017, cynhaliwyd 37,000 o brofion anadl yng Nghymru. Roedd canlyniad 4,500 o’r rhain (11%) yn bositif, sef gostyngiad o 2.2% o’i gymharu â 2016.
Adroddiadau
Troseddwyr moduro, 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 752 KB
PDF
Saesneg yn unig
752 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.