Data ar yr ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio o wastraff trefol ar gyfer Ebrill i Mehefin 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Adroddiad rheoli gwastraff trefol awdurdod lleol
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Yn ôl y data dros dro, 63% oedd y gyfradd gyfunol ailddefnyddio/ailgylchu/compostio gwastraff trefol awdurdodau lleol ar gyfer y 12 mis hyd at ddiwedd Mehefin 2018. Mae hyn 1 pwynt canran yn llai na’r ganran ar gyfer y 12 mis hyd at ddiwedd Mehefin 2017. Fodd bynnag, mae’r gostyngiad yma yn rhannol o ganlyniad i welliant yn ansawdd y cofnodi (gweler datganiad ystadegol 2017-18).
- Yn y chwarter Ebrill i Fehefin 2018, cafodd 66% o wastraff trefol awdurdodau lleol ei ailddefnyddio, ailgylchu neu compostio yng Nghymru. Roedd hyn yn gynyddiad o 1 pwynt canran o’i gymharu â’r un chwarter yn 2017.
- Yn y chwarter Ebrill i Mehefin 2018, cynyddodd cyfanswm gwastraff trefol yr awdurdodau lleol a gynhyrchwyd yng Nghymru o 3% o’i gymharu â’r un chwarter yn 2017. Cynyddodd nifer y tunelli o 419 i 430 mil tunnell.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.