Mae arwyddion bod twf economaidd yng Nghymru wedi bod yn llai grymus nag yn y DU yn gyffredinol, gydag allbwn cynhyrchu ac adeiladu yn ddisymud neu'n gostwng ychydig yn ystod 2003.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Dim ond 79% o gyfartaledd y DU yw'r GVA1 y pen yng Nghymru, ond mae'n amrywio'n sylweddol rhwng rhanbarthau. Yn y Gorllewin a'r Cymoedd, mae GVA y pen yn ddwy ran o dair o gyfartaledd y DU tra bod y De a'r Dwyrain yn debyg iawn i weddill y DU. Yn y Gogledd, mae GVA y pen yn amrywio o 53% o gyfartaledd y DU yn Ynys Môn i 94% yn Sir y Fflint a Wrecsam. Efallai fod y bwlch ffyniant rhwng y Gogledd Ddwyrain a'r Gogledd Orllewin wedi lleihau ychydig yn y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, ymddengys bod hyn yn sgil dirywiad cymharol yn sefyllfa'r Gogledd Ddwyrain yn hytrach na bod ardal Amcan Un y Gogledd Orllewin wedi dal i fyny.