Yn 2003 fe sefydlwyd panel cynrychiadol a oedd yn cynnwys 2,000 o unigolion.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Cynhaliwyd cyfweliadau wyneb yn wyneb â’r ymatebwyr yn eu cartrefi eu hunain, a gofynnwyd amrywiaeth o gwestiynau iddynt am gymryd rhan mewn dysgu, a’u sylwadau barn arno. Cafodd yr unigolion hyn eu hailgyfweld yn 2004 a 2005, er mwyn cadw golwg ar y newidiadau mewn agweddau a’r canfyddiadau o ddysgu.
Bydd y darganfyddion hyn yn ein cynorthwyo i ddeall yn well yr hyn sy’n cymell pobl i ddysgu. Defnyddiwyd y canlyniadau hefyd i lunio cylchraniad o unigolion ledled Cymru, mewn perthynas â’u camau gweithredu a’u sylwadau barn am ddysgu.