Gareth Bale
Enwebiad ar gyfer gwobr Chwaraeon
Mae Gareth Bale wedi ei ddewis fel Teilyngwr ar gyfer y Wobr Dewi Sant am Chwaraeon am ei rôl fel pêl-droediwr blaenllaw ac am helpu Cymru i gyrraedd prif bencampwriaeth am y tro cyntaf ers 1958.
Gwnaeth Gareth, o Gaerdydd, ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf i Southampton yn 17 mlwydd oed yn 2006. Fe ymunodd â Tottenham Hotspur yn 2007 cyn symud i Real Madrid yn 2013.
Ymddangosodd am y tro cyntaf i dîm Rhyngwladol Cymru ym mis Mai 2006, y chwaraewr ieuengaf i gynrychioli Cymru bryd hynny. Ers hynny, mae wedi ennill 50 o gapiau rhyngwladol ac wedi sgorio 19 gôl dros ei wlad. Fe oedd y prif sgoriwr goliau yn yr ymgyrch ddiweddar i gymhwyso ar gyfer y Bencampwriaeth Ewropeaidd, gan sgorio 7 gôl.
Gareth yw chwaraewr mwyaf adnabyddus Cymru ac mae wedi dangos ymroddiad at ei wlad drwy chwarae i’r tȋm cenedlaethol a’i gefnogi gyda balchder, gan eu harwain i’w prif bencampwriaeth gyntaf ers bron i 60 mlynedd. Mae’n llysgennad rhagorol i Gymru ac yn ysbrydoliaeth i chwaraewyr pêl-droed ifanc y dyfodol.