Mae’r Adnodd yn cael ei ddatblygu er mwyn dod â data dienw o ystod eang o ffynonellau sy’n ymwneud â thai yng Nghymru at ei gilydd.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Nod yr Adnodd yw dod â data amrywiol am nodweddion, adeiladwaith, cyflwr ac effeithlonrwydd ynni stoc dai Cymru at ei gilydd. Bydd yn darparu sail dystiolaeth ddienw, barhaus a chadarn, ar lefel eiddo unigol lle bo modd. Bydd yn cael ei ddefnyddio fel sail i gyfeiriad polisïau sy’n ymwneud â thai a’r amgylchedd, yn enwedig cyflwr tai a thlodi tanwydd.
Bydd yr Adnodd yn cysylltu data gweinyddol, data arolygon a data wedi’u modelu. Bydd yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr ag Arolwg Cyflwr Tai Cymru i ddarparu ffordd well o fodelu data ar lefel ddaearyddol is. Yn ogystal, fe fydd yn darparu data mwy cyfredol na’r data sydd ar gael o arolygon cyflwr tai cyfnodol.
Rydym yn defnyddio dull ailadroddol wrth ddatblygu’r Adnodd Dadansoddi’r Stoc Dai. Y nod yw darparu gwerth ychwanegol a dysgu rhywbeth newydd bob tro mae’r broses yn cael ei hailadrodd. Elfen hollbwysig o hyn yw adborth gan randdeiliaid ac rydym yn awyddus i gydweithio cymaint ag sy’n bosibl.
Ymhlith pethau eraill, disgwylir y bydd defnyddio’r Adnodd yn helpu i wella’r data sydd ar gael am amddifadedd tai ar gyfer y diweddariad nesaf o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn 2019, a gwella amcangyfrifon tlodi tanwydd rhwng Arolygon Cyflwr Tai.
Bydd data ar gael ar gyfer cysylltu â setiau data ehangach i wella’r sail dystiolaeth ar gyfer polisïau cymdeithasol fel iechyd, addysg a’r economi.
Cyhoeddwyd adroddiad cynnydd cyntaf ym Medi 2018 er mwyn diweddaru defnyddwyr ar:
- ein cynnydd i adnabod ffynonellau data gweinyddol sy’n berthnasol i ddatblygiad Adnodd Dadansoddi’r Stoc Dai i Gymru;
- ein hystyriaethau ar hyn o bryd ar y model ar gyfer seilio’r adnodd a darparu gafael ar y data;
- er mwyn gwahodd adborth er mwyn ein helpu i sicrhau bydd y rhaglen yn cwrdd ag anghenion defnyddwyr yn y dyfodol.
Adroddiadau
Adroddiad cynnydd, Medi 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cyflwrtai@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.