Gwybodaeth am nifer yr anheddau a gafodd eu dymchwel yng Nghymru ar gyfer Ebrill 2016 i Fawrth 2017.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Tai a gafodd eu dymchwel
Prif bwyntiau
- Yn ystod 2016-17, dymchwelwyd cyfanswm o 129 anheddau ledled Cymru, traean yn llai na nifer yr anheddau a ddymchwelwyd yn 2015-16.
- Yn ystod 2016-17, doedd dim dymchweliadau yn 9 o’r 22 awdurdod lleol. Yn y 13 awdurdod arall, roedd y niferoedd yn amrywio o 27 yn Sir Ddinbych i 3 yn Wrecsam, Powys, Sir Benfro ac Abertawe.
- Ar lefel awdurdod lleol, gall nifer yr anheddau a ddymchwelwyd amrywio yn sylweddol o flwyddyn i flwyddyn, ac mae’n ddibynnol ar lefel y datblygiad a chlirio o fewn pob awdurdod yn ystod y cyfnod. Yn ystod 2016-17, dim ond 4 o anheddau a ddymchwelwyd yn Sir y Fflint, tra yn y flwyddyn flaenorol dymchwelwyd 114 o anheddau o ganlyniad i strategaeth adfywio lleol.
- Yn ystod 2016-17, dymchwelwyd 45 o anheddau (35%) o fewn ardaloedd adnewyddu(a). O’r rhain roedd 23 yn Nhorfaen a 22 yn Sir Ddinbych.
- Cafwyd 4 o ddymchweliadau mewn ardaloedd clirio(b) yn 2016-17.
(a) Mae cynlluniau adnewyddu tai mewn ardaloedd penodol yn galluogi'r awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar weithredu a buddsoddi mewn ardaloedd y mae angen cymorth arnynt ac sydd hefyd yn addas i'w hadnewyddu.
(b) Ardaloedd clirio yw ardaloedd lle caiff y tai eu hystyried yn anaddas i bobl fyw ynddynt neu yn beryglus neu'n niweidiol i iechyd y preswylwyr. Mae'r awdurdod lleol yn datgan ardal glirio pan fydd yn fodlon mai'r dull mwyaf addas o ymdrin â'r amodau hyn yw dymchwel yr holl adeiladau yn yr ardal honno.
Defnyddir y wybodaeth hon gan Lywodraeth Cymru i gyfrifo amcangyfrifon stoc annedd ar gyfer Cymru.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.