Dewi Rogers
Enwebiad ar gyfer gwobr Rhyngwladol
Mae Dewi Rogers, sy’n hanu’n wreiddiol o Ogledd-orllewin Cymru ond sydd bellach yn byw yn Perugia, yr Eidal, wedi ei ddewis fel Teilyngwr yng nghategori Rhyngwladol Gwobrau Dewi Sant am ei waith fel arbenigwr ym maes rheoli dŵr.
Fe astudiodd Beirianneg Sifil ym Mhrifysgol Caerdydd cyn mynd i weithio i Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Dŵr y DU, ble datblygodd dechnoleg arloesol sy'n cynnwys modelau efelychiad mathemategol i nodi pibellau sy'n gollwng. Mae'r fethodoleg mor lwyddiannus fel ei fod yn cael ei ystyried yn fethodoleg o'r radd flaenaf o hyd. Mae wedi cael ei rhoi ar waith, ac mae wedi arwain at ganlyniadau arbennig mewn dros 40 o wledydd ledled y byd.
Mae’n byw yn yr Eidal ers sawl blwyddyn erbyn hyn, ble mae wedi sefydlu ei gwmni ymgynghorol ei hun. Mae Dewi wedi hyfforddi cannoedd o beirianwyr ifanc ac wedi gwella ansawdd bywyd miliynau o bobl o gwmpas y byd. Mae’n ymgynghorydd arbenigol i Fanc y Byd ac asiantaethau rhyngwladol eraill.
Mae Dewi hefyd ar flaen y gad wrth ddatblygu systemau cyfrifiadurol arbenigol a all weithredu systemau dŵr yn awtomatig ar eu pwynt mwyaf effeithlon, gan gynnwys y system PALM + sydd yn fersiwn mwy datblygedig o declyn cymorth a grëwyd ganddo fel rhan o brosiect llwyddiannus a ariannwyd gan arian Ewropeaidd.
Yn sgil ei ymdrechion mae biliynau o litrau o ddŵr wedi’u harbed bob blwyddyn.