Dyma rhaglen strategol o fuddsoddi mewn tystiolaeth ar gyflwr ac effeithlonrwydd/perfformiad ynni tai yng Nghymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Elfennau hanfodol o’r Rhaglen yw:
- Diweddaru amcangyfrifon tlodi tanwydd Cymru.
- Darparu darlun cenedlaethol o Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) a’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai.
- Helpu i wella’r maes Tai yn niweddariad 2019 o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.
- Darparu data ar gyfer llawer o anghenion eraill polisi tai, a pholisïau amgylcheddol a chymdeithasol.
Bydd data’r Rhaglen Dystiolaeth ar Gyflwr Tai yn sail i ddau o ddangosyddion cenedlaethol Llesiant Cymru. Yn benodol, anheddau sydd heb beryglon ac anheddau gyda pherfformiad ynni digonol. Felly byddant yn cyfrannu tuag at y gwaith ehangach o fonitro ein cynnydd fel gwlad wrth gyflawni’r Nodau Llesiant.
Mae cysylltiad agos rhwng y Rhaglen Dystiolaeth ar Gyflwr Tai a’r Rhaglen Datgarboneiddio Cartrefi, ac mae wedi’i chydnabod fel un o’r prif ffynonellau data ar gyfer y Grŵp Cynghori ar Ddatgarboneiddio Cartrefi yng Nghymru.
Mae Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol yn edrych ar yr ymrwymiadau a wnaethpwyd yn Rhaglen Lywodraethu’r Weinyddiaeth hon, Symud Cymru Ymlaen. Mae’n eu rhoi mewn cyd-destun hirdymor, ac yn nodi sut eu cyflawnir drwy ddod ag ymdrechion yn sector cyhoeddus Cymru draw at ei gilydd. Un o bum maes blaenoriaeth trawsbynciol Ffyniant i Bawb yw Tai, sy’n cydnabod yr effaith y gall tai ei gael ar bob agwedd ar fywyd.
Mae’r Rhaglen Dystiolaeth ar Gyflwr Tai yn cynnwys dwy ffrwd waith:
- Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18 (ACTC): Arolwg cenedlaethol yn darparu gwybodaeth am gyflwr ac effeithlonrwydd/perfformiad ynni pob math o dŷ a deiliadaeth yng Nghymru, ar wahân i eiddo gwag.
- Adnodd Dadansoddi’r Stoc Dai i Gymru (ADST): ‘Cronfa sylfaen anheddau’ sy’n cynnwys data amrywiol am nodweddion, adeiladwaith, cyflwr ac effeithlonrwydd ynni’r stoc dai yng Nghymru. Fe fydd ar lefel eiddo unigol lle bo modd.
Adroddiadau
Diweddariad rhanddeiliad, Medi 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 681 KB
Diweddariad rhanddeiliad, Ionawr 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 241 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cyflwrtai@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.