Amlygodd yr ymchwil amrywiaeth o ddulliau ac arfer da y mae landlordiaid cymdeithasol yn eu defnyddio i ddelio â digwyddiadau casineb.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Nodau’r gwaith ymchwil hwn oedd:
- canfod i ba raddau y caiff y Pecyn Cymorth ei ddefnyddio, gan gynnwys nodi enghreifftiau ac a gyflawnwyd ei nodau
- nodi, lle nad yw’r Pecyn Cymorth wedi’i ddefnyddio a fabwysiadwyd dull amgen ac, os felly, pa mor llwyddiannus y bu hwn
- nodi a oes angen gwelliannau i’r Pecyn Cymorth neu awgrymu prosesau eraill ar gyfer cyflawni nodau’r Pecyn Cymorth
- dysgu hefyd pa waith y mae landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru yn ei wneud i fynd i’r afael â digwyddiadau casineb ac asesu sut gellid gwella’r gwaith hwn
Cynhaliwyd yr ymchwil rhwng Mehefin a Thachwedd 2012.
Darganfu’r ymchwil fod y Pecyn Cymorth yn cael ei ddefnyddio gan ychydig dros draean o landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru, gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn bennaf. Awgrymodd landlordiaid cymdeithasol nad ydynt yn defnyddio’r Pecyn Cymorth fod eu dulliau yn dilyn ethos y Pecyn Cymorth.
Yn gyffredinol, mae rhanddeiliaid o’r farn bod y Pecyn Cymorth yn gyfeirlyfr defnyddiol i landlordiaid cymdeithasol sicrhau bod eu polisïau a’u harferion yn effeithiol ar gyfer mynd i’r afael â digwyddiadau casineb.
Amlygodd yr ymchwil amrywiaeth o ddulliau ac arfer da y mae landlordiaid cymdeithasol yn eu defnyddio i ddelio â digwyddiadau casineb. Roedd yr ymchwil wedi cyffwrdd ar gymhlethdodau digwyddiadau casineb, pwysigrwydd hyfforddiant digonol i staff landlordiaid cymdeithasol a monitro digwyddiadau casineb yn effeithiol. Nodwyd bod y Pecyn Cymorth yn adnodd defnyddiol ar gyfer gwella ymwybyddiaeth sefydliad o ddigwyddiadau casineb a’i allu i’w cydnabod felly.