Cyfrif carafannau Sipsiwn a Theithwyr
Gwybodaeth am safleoedd awdurdodedig, anawdurdodedig ac awdurdod lleol.
Cynnwys
Y cyhoeddiad diweddaraf
Cyhoeddiadau blaenorol
Oedi'r diweddariadau
Nid yw'r datganiad ystadegol ynghylch cyfrif carafannau Sipsiwn a Theithwyr wedi cael ei lunio am y tro yn dilyn cyhoeddiad Ionawr 2025. Ni fydd y diweddariadau i'r gyfres hon yn cael eu llunio am y tro er mwyn adolygu'r broses o gasglu data ynghylch cyfrif carafannau yn 2025. Fel rhan o'r adolygiad hwn, byddwn yn ystyried gwelliannau i helpu i sicrhau bod datganiadau ystadegol, i'r dyfodol, yn adlewyrchu'n gywir y llety sydd ar gael ar gyfer cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru.
Rydym yn gobeithio casglu'r data nesaf ym mis Ionawr 2026 ar ôl cwblhau'r adolygiad hwn. Os ydych yn defnyddio cyfrif carafannau Sipsiwn a Theithwyr, ac am roi adborth ar y cyhoeddiad hwn, cysylltwch â YrUnedTystiolaethCydraddoldeb@llyw.cymru.
Mae'r adolygiad hwn o gasglu data yn cyd-daro â'r ymgynghoriad cyhoeddus ar bedair o ddogfennau canllaw Llywodraeth Cymru. Un ohonynt yw 'Cynnal Asesiadau Llety Sipsiwn a Theithwyr', sydd i'w gyhoeddi yn ystod misoedd yr haf. Mae cynnal Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr yn ofyniad statudol o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 er mwyn i awdurdodau lleol asesu anghenion llety cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, ac mae'n rhaid ei gynnal bob pum mlynedd. Gall y canllawiau diwygiedig ar gyfer cyfrif carafannau fod yn rhan o'r prif ddata a gesglir i hwyluso asesiad Cylch 3 o anghenion llety, sydd i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 24 Chwefror 2027.
Ar gyfer beth y defnyddir y cyfrif?
Mae'r cyfrif yn rhan o'r sail tystiolaeth wrth asesu ceisiadau awdurdodau lleol am grant cyfalaf safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Mae cychwyn adran 101 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 hefyd yn gofyn i awdurdodau lleol gynnal asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sydd yn preswylio yn neu’n cyrchu i’w hardal.