Gwybodaeth am nifer y swyddi sydd wedi'u creu a'u colli. Mae'r canlyniadau wedi'u rhannu fesul diwydiant, a rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Llif cyflogaeth crynswth (neu tro cyflogaeth) ar gyfer Cymru
Mae swyddi yn cael eu creu a’u colli drwy’r amser yn economi Cymru. Mae hyn yn digwydd wrth i rai busnesau ehangu ac wrth i rai eraill leihau. Mae’n digwydd wrth i fusnesau newydd gychwyn yng Nghymru, neu gyrraedd Cymru, am y tro cyntaf; tra bod eraill yn gadael yn sydyn neu’n diflannu dros amser. Y gwahaniaeth rhwng y prosesau hyn o greu swyddi a cholli swyddi, neu dro cyflogaeth, yw’r cynnydd (neu ostyngiad) net mewn cyflogaeth yn economi Cymru.
Mae’r erthygl hon yn darparu’r dystiolaeth ddiweddaraf am y newidiadau hyn mewn cyflogaeth yng Nghymru. Y nod yw darparu persbectif ar gyfer barnu unrhyw drafodaeth am swyddi a grëwyd a chollwyd yng Nghymru. Mae’n seiliedig ar ddadansoddiad manwl o ddarnau o’r Gofrestr Ryngadrannol Busnes (IDBR), a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).
Adroddiadau
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/statistics-and-research-thumbs/151006-gross-employment-flows-wales-2011-2014-en_0-thumb_jpg.jpg?itok=OWBKtLQW)
Llif cyflogaeth crynswth (neu tro cyflogaeth) ar gyfer Cymru, 2011 i 2014 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 701 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.