Gwybodaeth am ddysgwyr sydd wedi cofrestru a'u gweithgareddau yn ôl oedran, rhyw, dull astudio, y math o raglen a lefel astudio ar gyfer Awst 2016 i Gorffennaf 2017.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol
Mae’r Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn yn crynhoi data ar nifer y dysgwyr mewn addysg a hyfforddiant ôl-16, heb gynnwys y rheini mewn Sefydliadau Addysg Uwch (SAU) neu ysgolion, ond gan gynnwys Sefydliadau Addysg Bellach (SAB), darparwyr eraill Dysgu Seiliedig ar Waith a darpariaeth Dysgu Cymunedol a gasglwyd drwy Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) Llywodraeth Cymru.
Nodwch nad yw'n bosibl diweddaru gwybodaeth StatsCymru ynghylch Cymraeg i Oedolion, sy'n arfer cael ei gynnwys fel rhan o'r datganiad hwn, i 2016/17. Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi bod yn gyfrifol am arwain y rhaglen Cymraeg i Oedolion ac am gydgysylltu darpariaeth ar draws Cymru ar ran Llywodraeth Cymru ers 2015. Mae ad-drefnu'r ddarpariaeth a'r systemau data o 2016/17 ymlaen wedi bod yn rhan o waith y Ganolfan (yn y gorffennol casglwyd data drwy ddefnyddio data'r Awdurdod Safonau Addysg Uwch a Chofnod Dysgu Gydol Oes Cymru). Mae trefniadau casglu data newydd yn cael eu sefydlu ar gyfer 2017/18 ac ymlaen. Fodd bynnag, ni chasglwyd data i ddarparu darlun cyflawn o'r ddarpariaeth yn ystod blwyddyn 2016/17.
Prif bwyntiau
- Roedd 172,470 o ddysgwyr mewn SAB, Dysgu Cymunedol neu Ddarparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith yn ystod 2016/17, i gymharu ar 172,460 yn 2015/16.
- Bu gostyngiad o 4% yn y niferoedd dysgwyr amser llawn mewn SAB er bod cynnydd bach yn y niferoedd dysgwyr rhan-amser.
- Gwelwyd gostyngiad o 4% yng nghyfanswm niferoedd dysgu cymunedol awdurdodau lleol.
- Gwelwyd cynnydd o 2% yng nghyfanswm niferoedd dysgwyr yn seiliedig ar waith.
Adroddiadau
Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol, Awst 2016 i Gorffennaf 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 842 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.