Roedd yr Arolwg Boddhad Dysgwr Cenedlaethol i Gymru yn edrych yn fanwl ar brofiadau’r dysgwyr Ôl-16 a’u canfyddiadau o ddysgu.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Roedd yr arolwg hwn yn ail-holi’r dysgwyr hynny er mwyn cael gwybod beth yr oeddent yn ei wneud ddwy flynedd yn ddiweddarach. Roedd yr arolwg yn cynnwys cynnal sgwrs ar y ffôn am 15 munud gyda 541 o ymatebwyr arolwg 2003.
Nod cyffredinol yr arolwg hwn oedd cadw golwg ar hynt y dysgwyr Addysg Bellach ar ôl iddynt adael eu digwyddiad dysgu, o ran eu gyrfaoedd a’u profiadau dysgu pellach. Ar ben hynny roedd yn casglu gwybodaeth am unrhyw newidiadau mewn agwedd neu gymhellion i ddysgu, y gallai’r profiad dysgu yn 2003 fod wedi’u hachosi.
Adroddiadau
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/statistics-and-research-thumbs/090724-futher-education-follow-survey-2005-cy-thumb_jpg.jpg?itok=spKmvDgp)