Geraint Davies
Gwobr Arloesedd a Thechnoleg enillydd 2016
Mae Geraint Davies, peiriannydd meddalwedd fideo sydd wedi byw ar Ynys Môn ers 1996, wedi ei ddewis fel Teilyngwr ar gyfer y Wobr Dewi Sant am Arloesedd a Thechnoleg am ei rôl wrth ddatblygu elfen o’r ap fideo amser real, Periscope.
Lansiwyd Periscope ym mis Mawrth 2015 ac mae’n galluogi defnyddwyr i wylio’r byd, mewn amser real, drwy lygaid rhywun arall, gan ddarlledu digwyddiadau byw i’w dilynwyr yn syth drwy fideos. Mae’r elfen fideos hollbwysig hyn a adeiladwyd gan Geraint yn agwedd ganolog ar yr ap.
Yn dilyn cyfnod o astudio ym Mhrifysgol Rhydychen ymunodd â Logica yn Llundain fel ymgynghorydd Unix, gan drosi dwy system weithredu’n saernïaeth gyfrifiadurol newydd. Mae hefyd yn gydawdur llyfr am raglennu Unix.
Symudodd wedyn i Microsoft fel arweinydd datblygu am fwy nag 8 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn bu’n bensaer ac yn ddatblygwr arweiniol ar dechnoleg amlgyfrwng Quartz, sy’n sail i raglenni ActiveMovie a DirectShow Microsoft. Caiff y rhain eu defnyddio’n eang ar gyfer chwarae fideos digidol a datrysiadau golygu DVD a sain digidol.
Yna sefydlodd ei gwmni ymgynghori ei hun cyn ymuno â Periscope yn 2015 ble’r oedd yn gyfrifol am yr holl waith codio a saernïaeth yr elfen fideo sy’n gwneud Periscope yn ddarlledwr fideo amser real. Cafodd Periscope ei gaffael gan Twitter yn Ionawr 2015 ac fe enillodd deitl Apple App Store App of the Year 2015, lai na blwyddyn ers ei lansio.