Data ar danau, lleoliad, achosion, cymhelliad, anafiadau, galwadau ffug a digwyddiadau gwasanaeth arbennig a fynychwyd ar gyfer Ebrill 2017 i Mawrth 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ystadegau achosion tân ac achub
Gwybodaeth am y gyfres:
Tanau
- Yn 2017-18, cynyddodd nifer y tanau a fynychwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Cymru fesul 3% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Ers 2001-02 cafwyd tuedd ar i lawr yn nifer y digwyddiadau a fynychwyd; mae ffigwr 2017-18 yn 69% yn is nag yn 2001-02.
- Cafwyd gostyngiad (gostyngodd) o 9% mewn prif danau yng Nghymru dros y flwyddyn, o 4,757 yn 2016-17 i 4,315 yn 2017-18. Mae prif danau yn cynnwys pob tân (tan) mewn adeiladau a cherbydau nad yw’n wag neu mewn adeileddau y tu allan, neu unrhyw dân sy’n cynnwys anafiadau, achubiaeth, neu danau a ymatebwyd iddynt gan ddefnyddio pump neu fwy o offerynnau.
- Yn 2017-18, fe gynyddodd y nifer o danau eilradd gan 13% wrth gymharu â 2016-17, ac fe gynyddodd y nifer o danau glaswelltir, coetiroedd a chnydau gan 22% dros yr un cyfnod.
Anafiadau
- Cafwyd 15 o farwolaethau yn sgil tanau yng Nghymru yn 2017-18.
- 526 oedd y nifer o anafiadau (heb farwolaeth) yn 2017-18, sef gostyngiad o 15% o gymharu â 2016-17. Roedd y gostyngodd hwn yn bennaf oherwydd gostyngiad o 24% yn y bobl hynny sy'n derbyn cymorth cyntaf neu'n cael eu hanfon am wiriadau rhagofalus.
Cam-rybuddion tân
- Yn 2017-18 cafwyd 14,161 o gam rybuddion tân yng Nghymru, i fyny o 14,790 yn 2016-17, sef gostyngiad o 4%.
- Bu gostyngiad yn nifer y cam rybuddion tân maleisus o 441 yn 2016-17 i 419 yn 2017-18.
Digwyddiadau gwasanaeth arbennig
- Mynychodd wasanaeth tân ac achub yng Nghymru 11,583 o digwyddiadau gwasanaeth arbennig yn 2017-18, gostyngiad o 1% ar 2016-17.
Larymau mwg
- Mewn 3 allan o 10 o danau mewn anheddau yng Nghymru yn 2017-18, doedd dim larwm tân wedi ei osod.
Achos tanau
- Yn 2017-18, yr achos unigol mwyaf dros dân damweiniol mewn annedd oedd cam-ddefnydd offer 32%. Hwn yw prif achos tanau damweiniol mewn anheddau ers 2001-02.
Amseroedd ymateb
- Yn 2017-18, ymatebwyd i 63% o brif danau a 71% o danau mewn anheddau yng Nghymru o fewn 10 munud.
Adroddiadau
Ystadegau achosion tân ac achub, Ebrill 2017 i Mawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
PDF
Saesneg yn unig
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Ystadegau achosion tân ac achub, Ebrill 2017 i Mawrth 2018: tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 139 KB
ODS
Saesneg yn unig
139 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.