Mae’r tirlun cydraddoldeb cyfredol yn gymhleth.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae’n ofynnol bellach i’r llywodraeth a darparwyr gwasanaeth greu polisi sy’n cydymffurfio â’r canlynol:
- chwe ‘maes’ triniaeth gyfartal a deddfwriaeth gweithredu cadarnhaol
- darpariaeth triniaeth gyfartal i’r iaith Gymraeg
- tair dyletswydd i hyrwyddo cydraddoldeb (hil, anabledd a rhyw)
- cyfraith hawliau dynol a safonau darpariaeth gwasanaeth
- a’r ddyletswydd i ‘hyrwyddo cydraddoldeb i bawb’, unigryw i Gymru.
Mae’r papur trafod hwn yn cynnig trosolwg o brosiect unigryw a gynhaliwyd yng Nghymru, wedi’i gyllido gan y Cynulliad Cenedlaethol a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn 2007, ac a gynlluniwyd i geisio deall sut i hwyluso’r gwaith o hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol ar draws meysydd.
Adroddiadau
Hwyluso gweithio ar draws meysydd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 188 KB
PDF
188 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.