Yn yr adroddiad hwn ceir ddisgrifiad o newidiadau yn y cysylltiad ag ysmygu mewn ceir y daeth plant iddo rhwng 2008 a 2014.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Dod i gysylltiad â mwg ail-law mewn ceir a’r defnydd a wna plant 10-11 mlwydd oed Cymru o e-sigaréts
Yn 2007 a 2008, edrychodd nifer o arolygon trawstoriadol (Cysylltiad a mwg tybaco amgylcheddol yn ystod plentyndod (CHETS) Cymru) ar newidiadau o ran plant a ddeuai i gysylltiad â mwg ail-law ar ôl y ddeddfwriaeth. Yr un oedd elfennau arolwg 2014 CHETS Cymru 2 ag elfennau’r arolygon cynharaf hyn, recriwtio sampl o 75 o ysgolion a chasglu data holiadur oddi wrth 1601 o blant o’r ysgolion hynny.
Nod yr arolwg oedd recriwtio cymaint o’r ysgolion a gymerodd ran yn CHETS Cymru ag yr oedd modd. Gofynnwyd yr un cwestiynau am y cysylltiad â mwg ail-law y deuai plant iddo mewn mannau preifat ag a ofynnwyd yn CHETS Cymru, gydag ychydig o eitemau ychwanegol ar ysmygu mewn ceir. Cwblhawyd hefyd eitemau ychwanegol ar ddefnyddio e-sigaréts. Casglwyd y data mewn dosbarthiadau gan staff ymchwil hyfforddedig.
Adroddiadau
Dod i gysylltiad â mwg ail-law mewn ceir a’r defnydd a wna plant 10-11 mlwydd oed Cymru o e-sigaréts: adroddiad CHETS Cymru 2 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Chris Roberts
Rhif ffôn: 0300 025 6543
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.