Un o'r cynlluniau mentora mwyaf, sydd wedi'i sefydlu am y cyfnod hiraf, i gyn-garcharorion yn y DU yw Cynllun Cymorth y Cyfnod Pontio.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae'n cynnig cymorth i garcharorion gwrywaidd a benywaidd sy'n cael problemau camddefnyddio sylweddau ar ôl eu rhyddhau.
Canfu'r gwerthusiad bod y Cynllun Cymorth yn sicrhau y cedwir mewn cysylltiad â lefel uchel o garcharorion ar ôl eu rhyddhau o gymharu â chynlluniau mentora eraill a werthuswyd, a bod ei fentoriaid yn parhau i weithio'n weddol ddwys â chyfran sylweddol o gleientiaid am gyfnodau hyd at dri mis. Roedd y cyn-garcharorion hynny a oedd mewn cysylltiad â 2-6 person o'r fath yn aildroseddu ar lefel lawer is na grwp cymharol a'r bobl hynny na gadwodd mewn cysylltiad â mentoriaid.