Nod y gwerthusiad yw asesu os, ac i ba raddau, mae'r rhaglen CBSP wedi datblygu'r gallu a'r seilwaith i lywio polisi a'i chyflwyno yn y dyfodol.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthuso o’r Rhaglen Beilot y Gronfa Blaenoriaethau Sector
Cynlluniwyd Rhaglen Beilot y Gronfa Blaenoriaethau Sector Llywodraeth Cymru (SPFP) i sicrhau fod darparwyr hyfforddiant yn datblygu strategaethau hyfforddi arloesol oedd yn fwy aliniedig ag anghenion y sector ac anghenion busnes. Er mwyn cyflawni hyn, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gontractio’r Cynghorau Sgiliau Sector (SSCs) i ddatblygu prosiectau hyfforddiant a datblygu i ddiwallu anghenion busnes.
Mae tystiolaeth i’r rhaglen hon gael effaith gadarnhaol yn y tri maes fel y diffinnir yn amcanion gwreiddiol y rhaglen:
- i 'ddylunio, datblygu a phrofi hyfforddi arloesol'
- i 'wella lefel yr ymgysylltu â busnesau mewn hyfforddiant'
- i 'estyn gallu'r darparwr’.
Daethom i'r casgliad bod y rhan fwyaf o Gynghorau Sgiliau Sector wedi perfformio'n dda, wedi ysgogi galw a datblygu atebion hyfforddi i ddiwallu anghenion busnes, er eiddynt ei chael yn anodd cwrdd â chyfeintiau’r targed uchelgeisiol gwreiddiol ar gyfer cyflwyno.
Yr hyn oedd yn amlwg o siarad gyda’r Cynghorau Sgiliau Sector a darparwyr oedd natur fregus yr isadeiledd a arweinir gan y cyflogwyr a gafodd ei dreialu drwy’r SPFP.
Adroddiadau
Gwerthuso o’r Rhaglen Beilot y Gronfa Blaenoriaethau Sector: adroddiad terfynol , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Gwerthuso o’r Rhaglen Beilot y Gronfa Blaenoriaethau Sector: adroddiad terfynol (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 375 KB
Cyswllt
Faye Gracey
Rhif ffôn: 0300 025 7459
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.