Diben y gwerthusiad oedd ystyried canlyniadau’r gwobrau hyn mewn perthynas â: absenoldebau salwch; gwella’r gallu i gadw staff; gwella’r gallu i ennyn diddordeb staff; a gwella proffil cwmnïau.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Adroddiad terfynol
Dyddiad rhyddhau: 13 Rhagfyr 2013
- Ni chafodd y Gwobrau effaith amlwg hyd yn hyn ar ganlyniadau’r sefydliadau o ran lefelau absenoldeb staff, cadw staff, ymgysylltiad a phroffil y cwmni, gan fod y sefydliadau sy’n cymryd rhan ac yn ymgeisio am y Gwobrau ar hyn o bryd yn rhai sy’n dechrau o sylfaen dda felly nid oes llawer o le i adeiladu arni.
- Dangosodd yr ymchwil fod o leiaf rhai gweithwyr yn elwa o gymryd rhan mewn gweithgareddau iachach, er ei bod yn anodd dweud ai’r Wobr ei hun sydd wedi gwneud gwahaniaeth neu a fyddai’r sefydliadau wedi rhoi’r mentrau hyn ar waith beth bynnag.
- Serch hynny, roedd cyfranogwyr yn hynod o bositif ynghylch effaith y Gwobrau ar y modd yr oeddent yn rheoli iechyd a lles staff a sut ‘roedd y fframwaith yn annog mwy o waith cydgysylltiedig yn y sefydliad a chyfathrebu’n well gyda’r staff.
- Dywedodd bron pawb y byddent yn argymell y Wobr i sefydliadau eraill.
Adroddiad interim
Dyddiad rhyddhau: 28 Chwefror 2013
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau interim sy’n seiliedig ar gyfweliadau ar y ffôn a gynhaliwyd hyd at ddiwedd mis Gorffennaf 2012. Mae hyn yn cynnwys cyfweliadau ag 16 o ymgeiswyr newydd ar gyfer y Gwobrau, a 15 o gyflogwyr a oedd wedi ennill y Gwobrau hyn o’r blaen. Yr unigolion a gafodd eu cyfweld oedd y rhai hynny a oedd yn gyfrifol am gymhwyso’r gwobrau hyn yn y gwahanol sefydliadau.