Mae’r strategaeth yn ymdrin â’r defnydd o alcohol, cyffuriau anghyfreithlon a chyfreithlon o fewn ei chylch gwaith.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Nod yr astudiaeth hon oedd gwerthuso’r broses o weithredu 'Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed: Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Cymru 2008-2018' yn ystod y tair blynedd gyntaf y mae wedi bod yn weithredol. Caiff pedwar maes blaenoriaeth eu hadnabod yn y Strategaeth: atal niwed; cymorth i bobl sy’n camddefnyddio sylweddau; bod yn gefn i deuluoedd a’u hamddiffyn; a mynd i’r afael ag argaeledd.
Prif nodau’r gwerthusiad oedd pennu a oedd y canlynol yn wir ac i ba raddau:
- pob agwedd ar y Strategaeth wedi cael ei gweithredu
- y bwriad i ddarparu “gwasanaethau amlapiol” wedi cael ei weithredu’n llawn
- arfer da wedi cael ei ddilyn
- adnoddau wedi cael eu dyrannu’n effeithiol
- ystadegau’n cael eu defnyddio’n effeithiol i fonitro effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd asiantaethau triniaeth
- tystiolaeth o leihau niwed o ganlyniad i weithredu’r Strategaeth.
Roedd y modd yr aethpwyd ati i gynnal y gwerthusiad yn seiliedig ar ddulliau cymysg, a’r rheiny’n cynnwys: adolygiad o ddogfennau polisi ac adroddiadau, adolygiad â ffocws o’r llenyddiaeth ar ‘yr hyn sy’n gweithio’ mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau, craffu ar Gronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau (gan gynnwys data Proffil Canlyniadau Triniaethau), dadansoddiad o werthusiadau blaenorol, a chyfweliadau ffurfiol wedi’u recordio gyda 52 o randdeiliaid allweddol yng Nghymru.