Cyflwynwyd y Grant i wella canlyniadau ar gyfer dysgwyr o deuluoedd ar incwm isel sy'n derbyn addysg blynyddoedd cynnar y Cyfnod Sylfaen am 10 awr neu fwy yr wythnos mewn lleoliad cymeradwy.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Y bwriad yw goresgyn y rhwystrau ychwanegol sy'n atal dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig rhag cyflawni eu llawn botensial.
Gwerthuso sut y mae'r Grant Amddifadedd Disgyblion Blynyddoedd Cynnar (GADBC) yn cael ei ddehongli a'i roi ar waith gan ymarferwyr ar draws y gwahanol leoliadau, a yw'n cael ei weithredu fel y bwriadwyd ac i nodi unrhyw arfer gorau sy'n dod i'r amlwg.
Roedd yr astudiaeth yn defnyddio tri phrif ddull:
- arolwg ar-lein o leoliadau blynyddoedd cynnar
- cyfweliadau gyda'r arweinwyr polisi ym mhob un o’r pedwar CARh ac un awdurdod lleol yn ogystal â gyda staff gweithredol mewn tri awdurdod lleol
- a chyfweliadau astudiaeth achos mewn 20 o leoliadau.
Prif ganfyddiadau
- Nododd rhan fwyaf (94%) y lleoliadau blynyddoedd cynnar oedd yn derbyn y GADBC ei brif nod yn gywir.
- Adroddodd y mwyafrif o leoliadau eu bod yn defnyddio'r EYPDG at y dibenion a argymhellir gan LlC canllawiau enwedig cefnogi datblygiad iaith gynnar, hyfforddi staff, prynu adnoddau dysgu newydd a chymorth rhiant.
- Nododd y lleoliadau mai prif fanteision y GADBC oedd: gallu dechrau cefnogi plant difreintiedig flwyddyn yn gynharach a'i fod yn hyblyg i gefnogi amgylchiadau gwahanol.
- Y brif anfantais a nodwyd gan leoliadau oedd bod gwerth y GADBC yn rhy fach, yn enwedig ar gyfer lleoliadau gyda niferoedd isel o blant cymwys. Dywedodd ychydig o leoliadau hefyd fod ansicrwydd ynglŷn â bodolaeth y grant yn y dyfodol a lefel eu dyraniadau GADBC yn cyfyngu eu gallu i gynllunio ymlaen llaw.
- Dywedodd rhai lleoliadau nas cynhelir nad oedd eu ALl wedi dosbarthu'r GADBC yn uniongyrchol i'r lleoliadau, a byddai wedi bod yn well ganddynt pe byddai'r awdurdodau wedi gwneud hynny.
Adroddiadau
Gwerthusiad o Weithredu'r Grant Amddifadedd Disgyblion Blynyddoedd Cynnar , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
David Roberts
Rhif ffôn: 0300 062 5485
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.