Grant, June ac Owain Thomas
Enwebiad ar gyfer gwobr Dinasyddiaeth
Mae Grant, June ac Owain Thomas o Oakdale wedi eu dewis fel teilyngwyr ar gyfer y Wobr Dewi Sant am Ddinasyddiaeth am eu hymdrechion di-flino i godi arian yn dilyn marwolaeth trasig eu mab 15 mlwydd oed.
Bu farw Jack Thomas yn sydyn ac yn annisgwyl ym mis Chwefror 2012. Roedd yn fachgen heini iawn a oedd yn mwynhau chwaraeon.
Amcangyfrifir bod tua 12 person ifanc (rhwng 14-35 mlwydd oed) yn marw bob blwyddyn o fethiant ar y galon am nad ydynt wedi cael diagnosis.
Ers marwolaeth Jack, mae’r teulu Thomas wedi codi arian yn ddi-flino i dalu i elusen Cardiac Risk in the Young deithio i Oakdale sawl gwaith y flwyddyn er mwyn profi 111 o rai yn eu harddegau ac oedolion ifanc am broblemau’r gallon dwywaith y flwyddyn, ar gost o £35 y person.
Mae’r arian y maent wedi ei godi hefyd wedi mynd tuag at brynu diffibrilwyr, sydd wedi eu rhoi i bob ysgol uwchradd yn yr ardal ac mae staff a disgyblion wedi derbyn hyfforddiant ar sut i’w defnyddio. Mae un o’r diffibrilwyr yma wedi achub bywyd rhiant oedd yn dioddef o ataliad ar y galon yn ystod noson rieni.