Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio canfyddiadau’r gwerthusiad diwedd prosiect y Prosiect Twristiaeth Treftadaeth (HTP), ac mae’n rhoi dadansoddiad o gyflawniadau terfynol y prosiect.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Ariannwyd yr HTP gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a’i nod oedd cael y gwerth economaidd gorau o dreftadaeth yng Nghymru trwy gynyddu nifer, hyd a gwerth ymweliadau â Chymru. Ymdrechodd y prosiect hefyd i agor treftadaeth Cymru i gynulleidfa ehangach trwy ei gwneud yn ddifyrrach i ymwelwyr ac i bobl sy’n byw yng Nghymru.
Amcan y gwerthusiad hwn oedd asesu llwyddiant yr HTP o ran cwrdd â’i dargedau, ei effeithiolrwydd wrth gyflawni, a’r gwahaniaeth a wnaeth y buddsoddiad i sefydliadau ac ymwelwyr.
Mae’r adroddiad gwerthuso yn seiliedig ar raglen waith a gynhaliwyd rhwng Gorffennaf a Medi 2015 oedd yn cynnwys:
- adolygu dogfennau perthnasol i gynllunio a chyflawni’r HTP
- cynnal arolwg desg o lenyddiaeth polisi ehangach yn ymwneud â thwristiaeth treftadaeth yng Nghymru
- cyfweld â chynrychiolwyr oedd yn ymwneud â 14 o fentrau y cafodd eu hariannu gan HTP a’u harwain gan sefydliadau allanol, gan gynnwys staff o chwe awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru
- cyfweld â deg o staff Cadw yn ogystal â chwech o warcheidwaid Cadw oedd wedi eu lleoli ar safleoedd a ariannwyd gan HTP
- cyfweld swyddogion Croeso Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru
- dadansoddi cynnyrch a chyflawniadau’r prosiect er mwyn cynnal asesiad terfynol o effaith economaidd yr HTP.
Adroddiadau
Gwerthusiad o’r Prosiect Twristiaeth Treftadaeth , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Gwerthusiad o’r Prosiect Twristiaeth Treftadaeth: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 377 KB
Cyswllt
Heledd Jenkins
Rhif ffôn: 0300 025 6255
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.