Neidio i'r prif gynnwy

Prif nod y cynllun peilot oedd archwilio ffyrdd o gynyddu hyblygrwydd wrth ddarparu’r Cyfnod Sylfaen.

Dau brif nod y gwerthusiad oedd:

  • gwerthuso sut cafodd y cynlluniau peilot eu gweithredu
  • gwerthuso effaith y cynnydd mewn hyblygrwydd ar deuluoedd.


Roedd y gwerthusiad yn werthusiad proses yn bennaf, a ystyriodd sut y cynigiwyd yr hyblygrwydd o ran darpariaeth a sut y cafodd ei weithredu ar draws ardaloedd y pedwar awdurdod lleol a gymerodd ran.

 

Yn ogystal, ystyriwyd y berthynas rhwng y pedair elfen allweddol (galw, darpariaeth, ansawdd ac effaith) o ddarpariaeth hyblyg a’r pedwar prif grŵp o randdeiliaid (awdurdodau lleol, darparwyr, rhieni a phlant).

Er mwyn gwneud hyn, defnyddiwyd cyfuniad o’r canlynol wrth wneud y gwerthusiad:

  • cyfweliadau ag awdurdodau lleol, staff addysgu, staff rheoli a rhieni
  • arolygon ymhlith staff a rhieni
  • ymweliadau ag ysgolion ac arsylwi mewn dosbarthiadau.

Adroddiadau

Gwerthusiad o’r Cynllun Peilot Hyblygrwydd y Cyfnod Sylfaen , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Natalie Page

Rhif ffôn: 0300 061 5580

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.