Nod cyffredinol y gwerthusiad hwn yw darparu gwybodaeth gadarn ac amserol am roi’r Rhaglen Ariannu Hyblyg ar waith.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthuso’r Rhaglen Ariannu Hyblyg
Gwybodaeth am y gyfres:
Mae’r rhyddid ychwanegol hwn yn caniatáu ar gyfer dull gweithredu sy’n fwy strategol wrth ymyrryd yn gynnar, atal problemau a chefnogi.
Er ei bod yn dal yn ddyddiau cynnar ar y rhaglen Ariannu Hyblyg, sy’n golygu na ellir barnu eto a p’un a yw’r rhaglen yn llwyddiant, mae’r canfyddiadau interim yn dangos arwyddion a datblygiadau cadarnhaol.
Dengys y canfyddiadau y themâu hyn:
- ei bod yn dal yn gynnar o ran rhoi’r rhaglen ar waith; gweithgareddau adolygu sy’n cael y sylw ar hyn o bryd, ac mae achosion busnes yn dal i gael eu creu er mwyn symud ymlaen i roi’r rhaglen ar waith.
- bod cynnydd, yn amlach na pheidio, yn gysylltiedig â ‘fframwaith’ neu broses sydd eisoes yn bodoli ar gyfer cyflawni agenda’r rhaglen.
- bod llawer o awdurdodau lleol eisoes yn cydweithio ac yn defnyddio cyllid yn ‘hyblyg’. Eto i gyd, mae llawer o awdurdodau lleol yn anstrategol eu hagwedd at hyblygrwydd o ran cyllid.
- bod ystod o ddulliau cyflenwi cynnar wedi canolbwyntio ar ddod â phobl ynghyd, hwyluso sgyrsiau ‘newydd’, adolygu ac asesu taith y defnyddiwr gwasanaethau. Mae rhai wedi darganfod nad yw’r seilwaith ar gyfer rheoli’r rhaglen (TG), fel y mae, yn rhoi’r wybodaeth gywir o ran profiadau defnyddwyr y gwasanaeth.
- bod llawer o’r dulliau gweithredu cynnar yn eu lle cyn i wahanol raglenni gael eu rhoi ar waith, sy’n dangos gwaddol sylfaenol o weithio ar y cyd. Gwelir hyn ar ei fwyaf amlwg mewn awdurdodau lleol yn y gwasanaethau cymorth sy’n gysylltiedig â thai a’r gwasanaethau nad ydynt yn gysylltiedig â thai, yn enwedig grantiau – Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau’n Deg, y Gronfa Waddol a Cefnogi Pobl.
- ei bod yn hanfodol bod yr Uwch Dîm Arwain yn mabwysiadu nodau ac uchelgeisiau’r rhaglen Ariannu Hyblyg, yn enwedig y rhai hynny sy’n ysgogi cyflawni yn lleol, er mwyn symud ymlaen yn llwyddiannus. Rhaid i hyn fod ar draws sawl lefel, o’r lefel uchaf, i'r isaf er mwyn sicrhau bod y neges yn gyson.
- bod rhai awdurdodau lleol yn gyndyn o fod yn arloesol oherwydd nad ydynt yn sicr bod Llywodraeth Cymru yn mynd i barhau ag Ariannu Hyblyg.
- hyd yma, mae’r canlyniadau wedi cael eu cyfyngu i lefel awdurdod lleol. Mae hyn yn bennaf yn ymwneud â chychwyn grwpiau grantiau ar y cyd, ailstrwythuro sefydliadol a chydnabod newid o ran arferion gweithio, a chynigion eraill ar gyfer rhoi newid ar waith. Er hynny, mae’n bwysig nodi mai dim ond am gyfnod byr y mae’r Rhaglen Ariannu Hyblyg wedi bod yn gweithredu.
Adroddiadau
Gwerthuso’r Rhaglen Ariannu Hyblyg: adroddiad interim , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.