Nod y gwerthusiad oedd deall sut roedd y cynllun peilot yn gweithio yn ymarferol a ystyried y rhesymau dros y newidiadau yn y niferoedd sy’n cymryd rhan.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Canfyddiadau allweddol
- Nodwyd amrywiaeth o arferion effeithiol mewn ambell i faes, gan gynnwys defnyddio dull asesu trylwyr; cyfathrebu da a perthynas dda rhwng hyfforddwyr, rheolwyr troseddwyr a dysgwyr ac ymdrechion i deilwra’r dysgu.
- Roedd gostyngiad sylweddol yn nifer y gweithgareddau dysgu a gychwynnwyd yn ystod y cynllun peilot, o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
- Nodwyd rhai o’r heriau a gododd wrth geisio gweithredu’r cynllun yn llwyddiannus, sef newid sefydliadol a diffyg parhad oherwydd bylchau a grëwyd drwy ailgomisiynu.
- Roedd yr argymhellion ar gyfer y ddarpariaeth yn y dyfodol yn cynnwys: rhoi cyfle i reolwyr troseddwyr gymryd rhan yn y broses o lunio’r gwasanaeth yn y dyfodol; sicrhau bod hyfforddwyr yn gymwys i weithio gyda throseddwyr; ac adolygu meini prawf cymhwysedd, prosesau asesu a phrosesau atgyfeirio.
Cafodd yr hyfforddiant ei gynnal gan ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith dan gontract i Lywodraeth Cymru.
Adroddiadau
Gwerthusiad o’r Cynllun peilot sgiliau hanfodol i droseddwyr ar ddedfrydau yn y gymuned , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Gwerthusiad o’r Cynllun peilot sgiliau hanfodol i droseddwyr ar ddedfrydau yn y gymuned: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 370 KB
PDF
370 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Sara James
Rhif ffôn: 0300 025 6812
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Media
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.