Dyma’r gwerthusiad terfynol ynglŷn â dau o brosiectau Amgylchedd ar gyfer Twf (E4G) a gafodd eu datblygu a’u rheoli gan Groeso Cymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Nodau’r prosiectau oedd:
- gwella atyniad cyfleusterau naturiol ac adeiledig
- datblygu “Canolfannau Rhagoriaeth” a gweithgareddau deillio
- datblygu marinâu, llwybrau beicio a cherdded
- gwella mynediad i’r arfordir a chefn gwlad
- datblygu’r potensial ar gyfer hamdden a gweithgarwch economaidd cynaliadwy.
Tynnodd y prosiect amrywiaeth o feysydd gwerthuso gan gynnwys:
- adolygu cynlluniau busnes y prosiectau, ffurflenni monitro ac adroddiadau blynyddol y prosiect yn ei grynswth a rhai’r Canolfannau Rhagoriaeth
- ymgynghori â rheolwyr y prosiectau, rheolwyr y Canolfannau Rhagoriaeth, a’r swyddogion cyfrifol, y partneriaid perthnasol a’r rhanddeiliaid mewn llawer o’r 50 a rhagor o weithgareddau buddsoddi a ariannwyd
- ystyried y dystiolaeth sylfaenol, tystiolaeth y gwaith monitro a thystiolaeth y gwaith gwerthuso a wnaed ar gyfer y gweithgareddau buddsoddi
- Ymchwil gomisiwn benodol ynglŷn â’r ddau brosiect fel yr ymchwil a wnaed gan Ysgol Fusnes Caerdydd i amcangyfrif effaith economaidd yn gysylltiedig â gwariant ymwelwyr a gwariant ar adeiladu.
Adroddiadau
Gwerthusiad o’r Prosiectau Twristiaeth Arfordirol a Thwristiaeth Gynaliadwy , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
PDF
Saesneg yn unig
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Gwerthusiad o’r Prosiectau Twristiaeth Arfordirol a Thwristiaeth Gynaliadwy: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 495 KB
PDF
495 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Tom Stevenson
Rhif ffôn: 0300 062 2570
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.