DIGON
Enwebiad ar gyfer gwobr Person Ifanc
Mae DIGON, grŵp o ddisgyblion blwyddyn 10 -13 o Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, wedi cael eu dewis yn deilyngwyr am eu gwaith dros geisio atal homoffobia yn eu hysgol a’r gymuned ehangach.
Sefydlwyd y grŵp yn 2011 i edrych i mewn i homoffobia achlysurol yn yr ystafell ddosbarth. Darganfuwyd bod ansicrwydd ynglŷn â sut i ddelio gydag achosion o ieithwedd homoffobaidd o fewn yr ysgol ac felly aethpwyd ati i geisio creu polisi penodol ar Iaith homoffobaidd. Cynhaliodd y grŵp sesiynau hyfforddiant mewn swydd a ddysgodd athrawon sut dylid mynd ati i ddelio gyda digwyddiadau homoffobaidd ond yn bwysicach y rheswm pam a pham bod angen bod yn gyson.
Ers y dyddiau cynnar hyn maen nhw wedi bod yn rhan o orymdaith Pride Cymru ac wedi cynnal stondin ar y maes i annog eraill i ddilyn eu hesiampl. Maen nhw wedi cynnal sesiynau ABCh i bob blwyddyn yn yr ysgol. Eleni treialwyd trydar gwers ABCh yn fyw a oedd yn llwyddiant ysgubol wrth gychwyn ymddiddan a phobl eraill! Mae prosiect pontio wedi ei gychwyn ac mae’r grŵp yn siarad gyda Bl6 am addasrwydd ieithyddol. Mae DIGON wedi cyflwyno mewn cynadleddau i bobl ifanc ac i oedolion ac wedi dysgu gwersi homoffobia i ddisgyblion o ysgolion eraill ar draws y ddinas. Llefarodd rhai aelodau mewn cynhadledd yn Sweden ar homoffobia ym myd addysg. Eleni mae’r grŵp wedi cael cynnig cynnal oedfa yng Nghapel Salem Treganna ar y thema o gyd fyw a derbyn.
Mae eu hymdrechion i hel arian ar gyfer pobl LHDT mewn cymdeithasau llai goddefgar, tramor, wedi dal sylw pobl fel Sir Ian McKellen a’r archesgob Desmond Tutu a oedd wedi canmol eu gwaith, a’r gweinidog addysg, Huw Lewis a lansiodd ei gystadleuaeth ffilm wrth fwlio diweddar yn yr ysgol.