Mae'r adroddiad yn amlinellu sail resymegol ac amcanion yr astudiaeth, methodoleg y gwerthuso, a chrynodeb o'r prosiectau a'r gweithgareddau a gafodd eu cyflawni fel rhan o raglen Cyrraedd y Nod.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Cafodd y rhaglen ei hariannu'n rhannol gan Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Roedd y rhaglen yn cynnwys dau brosiect: Troedle Cyntaf, a Llwybrau i'r Brig. Mae'r ddau brosiect hyn yn targedu pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, a'r rhai hynny sydd mewn perygl o fod yn y sefyllfa honno.
Roedd yr adroddiad gwerthuso’n archwilio agweddau ar y broses o gynllunio, gweithredu a chyflawni'r prosiectau, gan gynnwys pa mor effeithiol yr oedd y prosiectau wedi perfformio o ran eu hamcanion.
Nod yr adroddiad gwerthuso oedd asesu:
- i ba raddau y mae prosiectau Troedle Cyntaf a Llwybrau i'r Brig wedi cyrraedd eu nod yn effeithiol, ac wedi cyflawni'r amcanion yr oeddent yn eu disgwyl dros gyfnod o fis Gorffennaf 2010 hyd at fis Mawrth 2013
- pa weithgareddau sydd wedi bod yn effeithiol ac sy'n gallu cael eu cynnal
- pa weithgareddau a ddylai ddylanwadu ar gyflawni ymyraethau eraill sydd â'r un nod yn y dyfodol
- yr hyn sydd wedi gweithio'n dda wrth reoli a gweithredu'r rhaglen, er mwyn dylanwadu ar drefniadau ar gyfer rhaglenni mawr eraill sydd â'r un amcanion a'r un grwpiau targed.
Adroddiadau
Adroddiad Gwerthuso Cyrraedd y Nod , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Cyswllt
Joanne Corke
Rhif ffôn: 0300 025 1138
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.