Richard Parks
Enwebiad ar gyfer gwobr Chwaraeon
Mae Richard Parks yn athletwr amgylchedd eithafol sydd wedi cyflawni gweithredoedd anhygoel o ddewrder yn erbyn yr elfennau.
Mae e’n gyn-chwaraewr rygbi proffesiynol a gynrychiolodd Cymru bedair gwaith ac a chwaraeodd dros dimau yng Nghymru, Lloegr a Ffrainc yn ystod gyrfa a barhaodd am 13 mlynedd. Nawr bellach yn 37-mlwydd oed, treulia ei amser yn ymgymryd â theithiau a heriau sy'n gwthio ffiniau perfformiad dynol ac mae wedi gwneud hanes ddwywaith gyda dwy gamp o ddygnwch anhygoel. Yr her gyntaf oedd dringo’r mynydd uchaf ar bob un o'r saith cyfandir y byd (Mynydd Vinson yn Antartica, Aconcagua, De America, Kilimanjaro yn Affrica, Pyramid Carstensz, yn Asia, Everest, Denali neu Fynydd McKinley yng Ngogledd America a Mynydd Elbrus yn Ewrop) a sefyll ar y tri phegwn (sef Pegynau’r Gogledd a'r De a chopa Everest) o fewn saith mis. Gadawodd Caerdydd ar 12 Rhagfyr 2010 ar ganmlwyddiant ymadawiad alldaith anffodus y Terra Nova a chwblhaodd yr her ar 12 Gorffennaf 2011, mwy na phythefnos cyn ei dyddiad terfyn hunanosodedig.
Y llynedd, daeth hefyd y dyn cyntaf o Gymru a'r person cyflymaf cyntaf erioed o Brydain i sgïo ar ben ei hun, heb gefnogaeth a heb gymorth, i Begwn y De. Mae hefyd yn aelod o fwrdd Chwaraeon Cymru.