Mae'r adroddiad hwn yn manylu ar ganfyddiadau sy'n deillio o werthusiad dwy flynedd o gyflwyno strategaeth.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Roedd tri phrif linyn i'r dull o werthuso:
- roedd llinyn gwaith Llywodraeth Cymru
- roedd y llinyn gwaith awdurdodau
- bu llinyn astudiaethau achos yn gwerthuso'r broses o gyflwyno sampl o brosiectau a gefnogwyd gan y Gronfa Cydlyniant Cymunedol a'r canlyniadau cysylltiedig.
Roedd pedwerydd llinyn gwaith yn canolbwyntio ar fonitro tueddiadau o ran cydlyniant trwy ddadansoddi data gweinyddol ac arolygon.
Mae elfennau allweddol dull Cymru o ymdrin â chydlyniant cymunedol wedi cael eu hamlinellu a'u lledaenu'n eang. Mae agwedd fwy gyfannol at gydlyniant cymunedol wedi cael ei meithrin ar draws ffiniau adrannol yn Llywodraeth Cymru. Darparwyd fframwaith i awdurdodau lleol a'u partneriaid er mwyn cefnogi datblygiad dull lleol o ymdrin â chydlyniant cymunedol. Mae pob un o 22 awdurdod lleol Cymru wedi ymgysylltu â'r agenda ac mae cannoedd o brosiectau lleol wedi cael eu cyflwyno mewn ymgais i gryfhau cydlyniant cymunedol yng Nghymru.
Argymhellion
- Adnewyddu'r cynllun gweithredu cydlyniant cymunedol.
- Arweinydd cydlyniant cymunedol penodedig ym mhob awdurdod lleol.
- Casglu data canfyddiadau ynghylch cydlyniant cymunedol ar lefel leol a chenedlaethol.