Cyflwynwyd y Grant ar gyfer Gwasanaethau Cynghori Rheng Flaen (FLASG) fel rhan o gynllun ariannu tair blynedd i gefnogi gwasanaethau rheng flaen ar draws Cymru yn ystod Ebrill 2014 i Mawrth 2015.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Roedd nodau'r cynllun yn cynnwys darparu cymorth ar gyfer materion cydraddoldeb a gwahaniaethu a chynyddu'r ymwybyddiaeth o'r materion hynny ymhlith darparwyr cyngor cyffredinol; hyrwyddo mwy o gydweithredu rhwng darparwyr cyngor; integreiddio gwasanaethau rheng blaen yn well a datblygu dealltwriaeth fwy cyffredin o safonau ansawdd.
Y nod oedd adolygu i ba raddau yr oedd FLASG yn bodloni ei ddibenion datganedig, canfod effeithiau'r ymyrraeth ar fuddiolwyr a darparu gwell ddealltwriaeth o'r math o gyngor a geisiwyd ac a ddarparwyd.
Mae'r adroddiad yn trafod canfyddiadau'r gwaith maes â chwmnïau a ariannwyd gan FLASG, rhanddeiliaid, swyddogion Llywodraeth Cymru a buddiolwyr a gefnogir mewn perthynas â rhoi'r grant ar waith.
Adroddiadau
Gwerthuso'r Grant ar gyfer Gwasanaethau Cynghori Rheng Flaen , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 970 KB
Gwerthuso'r Grant ar gyfer Gwasanaethau Cynghori Rheng Flaen: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 392 KB
Cyswllt
Semele Mylona
Rhif ffôn: 0300 025 6942
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.