Rhaglen wirfoddol yw Cymunedau dros Waith i helpu’r oedolion hynny sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur i ddod o hyd i waith.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad Cymunedau am Waith
Y rhaglen a’i weithredu
Mae CaW wedi’i gynllunio i ymateb i Gynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi 2013. Mae'n cael ei ariennir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.
Mae'r rhaglen yn targedu oedolion ddi-waith tymor hir ac oedolion economaidd anweithgar a phobl 16 i 24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth addysg neu hyfforddiant. Mae hi yn ceisio i wella eu cyflogadwyedd ac i symud i mewn i, neu yn agosach, at gyflogaeth.
Darperir CaW ar lefel leol ac mae cymryd rhan yn wirfoddol. Mae holl staff CaW yn gweithio mewn lleoliadau cymunedol.
Y Gwerthusiad
Gweithredwyd y gwerthusiad dros dri cham rhwng Hydref 2016 a mis Mehefin 2018.
Cyhoeddwyd y ddau adroddiad cyntaf ym Mis Ebrill a Mis Rhagfyr 2017. Mae’r adroddiad cyntaf yn amlinellu theori newid a'r model rhesymeg cynhenid sy'n tanlinellu CaW. Mae’r ail adroddiad yn asesu sut mae’r rhaglen wedi cael ei sefydlu a sut mae'n cael ei gweithredu.
Mae’r trydydd adroddiad yn tynnu ar y theori newid wrth asesu’r deilliannau y mae‘r rhaglen wedi eu cyflawni hyd yn hyn, a’r effeithiau sy’n dechrau dod i’r amlwg.
Adroddiadau
Cam 3: adroddiad ar ganlyniadau ac effeithiau sy'n dod i'r amlwg , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Cam 3: adroddiad ar ganlyniadau ac effeithiau sy'n dod i'r amlwg - Crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 532 KB
Cyswllt
Semele Mylona
Rhif ffôn: 0300 025 6942
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.