Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones yn dweud wrth y gynhadledd y TUC yn Llandudno heddiw mai nod Cymru yw sicrhau buddsoddiad cyhoeddus gyda phwrpas cymdeithasol.
Wrth siarad yn y digwyddiad, bydd y Prif Weinidog yn dweud:
"Yr wythnos hon, rydyn ni wedi lansio'r Contract Economaidd sy'n dangos ffordd newydd o fynd ati i gefnogi busnesau yng Nghymru.
"Mae'n golygu o'r mis hwn ymlaen, bydd angen i bob cwmni sy'n ymgeisio am gymorth grant busnes yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ddangos ei fod wedi ymrwymo i weithio'n deg a hyrwyddo iechyd yn y gweithle.
"Bydd hyn yn fanteisiol i’r ddwy ochr, gan annog busnesau a'r Llywodraeth i ystyried a phrofi sut y mae cwmni yn cyfrannu at gyfoeth a llesiant ei weithwyr a'r gymuned ehangach.
"Dyma enghraifft wirioneddol o bartneriaeth gymdeithasol yn cyflawni dros weithwyr yng Nghymru.”
Bydd y Prif Weinidog hefyd yn diolch am y bartneriaeth â'r undebau llafur dros y naw mlynedd ddiwethaf.
Bydd yn dweud:
"Er gwaethaf pob rhwystredigaeth yn y swydd hon, a'r tensiynau ar brydiau rhyngom ni, rydyn ni wedi bod yn bartneriaeth mewn grym.
"Ac rydyn ni wedi wynebu penderfyniadau anodd gyda'n gilydd.
"Pan gymerais i'r awenau yn 2009, roedden ni ynghanol un o'r argyfyngau ariannol gwaethaf a welodd y byd erioed. Dyna oedd cyfnod anodd a fu’n brawf o gryfder ein partneriaeth gymdeithasol. Cafodd penderfyniadau anodd eu gwneud o'r herwydd.
"Ond fe wnaethom ni'r penderfyniadau hyn mewn sefyllfa o rym.
"Rwy'n falch o hynny. Wrth inni ddathlu 150 o flynyddoedd ers sefydlu'r TUC eleni, rwy'n falch bod gennym ni Lywodraeth yng Nghymru sy'n gweithio gyda'i phartneriaid yn yr undebau llafur ac nid yn eu herbyn.
"Yng Nghymru, mae gennym ni Lywodraeth sy'n fodlon sefyll yn gadarn dros weithwyr. Ac yng Nghymru, rydyn ni wedi gwneud penderfyniadau anodd mewn cyfnodau anodd, gyda'n gilydd.
"Rydyn ni wedi gweithredu partneriaeth gymdeithasol wirioneddol i helpu Cymru, ei heconomi a'i gwasanaethau cyhoeddus i baratoi ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."