Araith gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Cyflwyniad

Diolch i Darran am y cyflwyniad yna.

A diolch i Positif am drefnu’r fforwm hwn a rhai tebyg, sy’n rhoi cyfle i ni drin a thrafod pynciau llosg y dydd.

Fel rhan o’m sylwadau i heno, rwy’n gobeithio mynd â chi ar daith fer o amgylch y byd. 

Fe awn i Missouri, drosodd i Massachusetts …yn ogystal â lleoedd sy’n ennyn mwy o hiraeth fel … Morfa yn fy nhref enedigol, Llanelli. Fe esbonia i ragor yn y man.

Yn ystod fy araith, rwy’n bwriadu disgrifio ein nod cenedlaethol o ddiwygio addysg fel busnes i bawb.

Rhaid i godi safonau a lleihau’r bwlch cyrhaeddiad fod o bwys i bob dinesydd, cwmni a phawb sy’n malio am ein lles fel cenedl.

Ac mae’n rhaid i ni ddefnyddio’r dalent a’r ymroddiad sy’n bodoli y tu hwnt i’r stafell ddosbarth i gyflawni’r nod cenedlaethol hwnnw.

Wrth gwrs, dyw’r syniad o gyflawni rhagoriaeth a chwarae teg yn ein system addysg fel nod cenedlaethol – fel ymdrech genedlaethol – ddim yn beth newydd nac yn eiddo i mi’n bersonol.

Mor bell yn ôl â’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd yr addysgwraig flaengar Elizabeth Phillips Hughes yn dadlau achos addysg o safbwynt Cymreig, ac o blaid addysg i ferched yn arbennig.

Cyn dychwelyd i Gymru a bod yr unig aelod benywaidd o bwyllgor a ddrafftiodd siarter Prifysgol Cymru, hi oedd pennaeth cyntaf y Coleg Athrawon i Ferched yng Nghaergrawnt. Ail-fedyddiodd Prifysgol Caergrawnt y coleg yn Neuadd Hughes er anrhydedd iddi wedyn.

Mewn pamffled ym 1884 yn dadlau dros gydaddysg, hyrwyddo addysg i fenywod a phwysigrwydd elfen Gymreig ein system addysg, dywedodd “education must be national, and must be in our own hands”.

Efallai ei bod hi’n fwy enwog am ddweud "A woman's place is wherever she likes". Clywch! clywch!

Gwerth addysg

Felly, o’m safle i ar fwrdd y Cabinet, beth wela i yw’r dasg sydd o’n blaenau ni, a sut a pham ddylai fod yn fusnes i bawb?

Yn syml, mae ffyniant, cydlyniant a lles cenedl yn seiliedig ar system addysg gref a lwyddiannus. Dyna pam rwy’n disgrifio ein diwygiadau i godi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a darparu system sy’n destun hyder a balchder cenedlaethol fel nod cenedlaethol.

Gan gefnogi proffesiwn addysg o’r radd flaenaf, sy’n blaenoriaethu dysgu proffesiynol parhaus ac arweiniad cryf, sy’n gosod ac yn sicrhau disgwyliadau uchel ar gyfer ein dysgwyr, ysgolion a’r system gyfan.

Wrth wraidd hyn oll, mae cwricwlwm newydd, sy’n gosod safonau uchel i ni gyd.

Bydd yn datblygu ein plant a’n pobl ifanc fel dinasyddion, ond gyda’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer byd gwaith sy’n prysur newid.

Bydd ein pobl ifanc yn cyflawni safonau rhifedd a llythrennedd uwch, ac yn dod yn fwy cymwys yn ddigidol ac yn ddwyieithog, ac yn feddylwyr mentrus, creadigol a beirniadol.

Nid ymarfer yw addysg. Mae’n helpu i baratoi ein pobl ifanc at fyd gwaith, ond mae’n bwysig er ei fwyn ei hun hefyd.

Mae’n adlewyrchu pwy ydym ni fel cymdeithas, beth rydym yn ei werthfawrogi a sut rydym yn sicrhau ein bod ni i gyd yn cael yr un chwarae teg i gyflawni o’n gorau.

Mae sicrhau bod pob plentyn yn cael yr un cyfle i gyflawni’r safonau uchaf posib wrth wraidd fy null gweithredu. Dyna pam wnes i ganolbwyntio ar drafod telerau’r Grant Amddifadedd Disgyblion tra’r oeddwn i mewn gwrthblaid.

A dyna pam rydw i wedi rhoi blaenoriaeth i gynyddu ac ehangu’r cymorth hwnnw ar gyfer disgyblion difreintiedig, a minnau mewn Llywodraeth.

Nawr dan yr enw Grant Datblygu Disgyblion – er mwyn adlewyrchu’r pwyslais ar gyrhaeddiad – mae wedi bod yn hynod lwyddiannus yn cynnig cyfleoedd a chodi safonau a disgwyliadau. Ond ni fyddaf yn derbyn unrhyw esgusodion am geisio codi’r nod ymhellach.
CODI SAFONAU

Yn y blynyddoedd diwethaf, bu pwyslais mewn perthynas â TGAU ar godi cyrhaeddiad i radd C. Mae hyn, heb os, wedi ysgogi llawer o ysgolion i helpu disgyblion i gyrraedd y nod hwnnw. Dylid croesawu hyn wrth gwrs.

Ond rydw i hefyd yn gwybod ei fod yn arwain at oblygiadau anfwriadol. Rwy’n poeni nad yw’r plant mwy galluog wedi cael eu hestyn ymhellach nac yn anelu am y graddau uwch.

Yn waeth na hynny, mae rhai (rwy’n credu) yn cael eu cofrestru’n gynnar, gan ddisgwyl cymhwyster is yn hytrach nag anelu’n uwch.

Mae’n rhaid i ni fod yn fwy uchelgeisiol er lles ein pobl ifanc.

Felly, rwy’n ystyried cyflwyno cynllun â tharged er mwyn nodi a chefnogi ein disgyblion mwy abl a thalentog yn well.

Bydd yn cysylltu â’n Rhwydwaith Seren llwyddiannus ar gyfer ein disgyblion chweched dosbarth disgleiriaf ac yn edrych ar faterion fel pontio o’r ysgol gynradd, cysylltu disgyblion o ysgolion a chymunedau gwahanol, dewis pynciau a chyrhaeddiad TGAU.

Rwy’n benderfynol o baru ein hymrwymiad i gydraddoldeb – sy’n hanfodol mewn system gyfun gwasanaeth cyhoeddus – â’n hymrwymiad i addysg.

Gwyddoniaeth – busnes pawb

Mae’n chwith gen i ddweud hyn, ond tan yn ddiweddar iawn, doedd rhai ysgolion uwchradd yng Nghymru ddim yn cofrestru’r un disgybl ar gyfer TGAU gwyddoniaeth. Dim un disgybl.

Mewn cyfuniad o sinigiaeth, gorsymleiddio a llai o uchelgais, roedd rhai ysgolion ond yn cofrestru disgyblion ar gyfer graddau BTEC.

Iawn i rai disgyblion, ond yn bendant nid i’r mwyafrif, ac yn sicr ddim yn iawn i bob myfyriwr.

Rwy’n falch o ddweud ein bod ni’n mynd i’r afael â hyn trwy’n cymhwyster TGAU newydd a mesurau perfformiad diwygiedig.

Doedd camau o’r fath ddim yn helpu dysgwyr; doedden nhw ddim yn cefnogi ein heconomi a ddim yn gwneud unrhyw beth i gau’r bwlch cyrhaeddiad ac uchelgeisiau.

O safbwynt gwyddoniaeth, rwy’n falch o ddweud ein bod ni’n gweld rhywfaint o gynnydd yn barod o ran niferoedd Gwyddoniaeth Driphlyg ac rwy’n disgwyl gweld y nifer hwnnw’n pasio gwyddoniaeth sengl eleni ac yn pasio BTEC Gwyddoniaeth cyn hir.

Mae canlyniadau PISA yn dweud wrthym nad ydym yn gwneud yn ddigon da mewn gwyddoniaeth, ac nad yw’n disgyblion mwy galluog yn gwneud cystal â rhai o’r gwledydd eraill.

Mae PISA yn hollti barn ac mae’n well gan rai gladdu eu pennau yn y tywod. Ond rwy’n gwybod mai dyma’r meincnod ar gyfer sgiliau rhyngwladol. Mae gwledydd ledled y byd yn ei ddefnyddio fel arwydd i entrepreneuriaid, cyflogwyr a buddsoddwyr.

I aralleirio hen ddywediad: “Mae Gweinidogion Addysg sy’n cwyno am PISA fel morwyr yn cwyno am y môr."

Mae’n bwysicach nag erioed i ddangos i Gymru, ac i’r byd, fod ein pobl ifanc yn gallu cystadlu ag eraill yn y DU ac ar draws y byd. Rhaid i benaethiaid ac ysgolion glywed y neges honno.

Prifysgolion – busnes pawb

Felly, mae angen i ni wneud mwy, ysbrydoli pobl ifanc a chynnwys ein prifysgolion fwyfwy.

Rwy’n falch fod Prifysgol Abertawe yn cynnig modiwl poblogaidd i’w myfyrwyr Ffiseg erbyn hyn, lle mae’n ofynnol iddyn nhw dreulio cyfnod yn addysgu Ffiseg mewn ysgolion lleol ac yn dysgu sut i gyfathrebu eu gwybodaeth.

Nid yn unig mae’n ysbrydoli disgyblion i weld myfyrwyr ifanc disglair yn trosglwyddo eu dealltwriaeth, ond hefyd yn annog myfyrwyr Ffiseg i ystyried gyrfa fel athro.

A dweud y gwir, bu’r cyfan mor llwyddiannus yn Abertawe nes bod yr Is-ganghellor wedi gofyn i bob adran ystyried y cynllun a meddwl sut allan nhw gynnig cyfleoedd tebyg.

Mae’n dda o ran profiad myfyrwyr. Mae’n dda o ran nodi darpar athrawon newydd nad oedd wedi ystyried hynny o’r blaen. Ac mae’n dda i brifysgolion ac ysgolion er mwyn meithrin cysylltiadau dyfnach a chryfach y tu hwnt i recriwtio myfyrwyr yn unig.

Fel Llywodraeth, rydym yn ariannu cynllun mentora ieithoedd tebyg ac rwy’n awyddus i brifysgolion weld manteision hyn ac  ehangu i feysydd eraill.

Rwyf wedi sôn eisoes am ddyletswydd Prifysgolion fel ceidwaid cymuned, dinas a gwlad. Gyda chymaint o adnoddau dynol, academaidd a diwylliannol, hoffwn eu gweld yn cyfrannu mwy at godi safonau yn ein hysgolion, ac yn mynd y tu hwnt i hyfforddi athrawon.

Byddai’n dda, er enghraifft, gweld llawer mwy o uwch arweinwyr ein prifysgolion yn dod yn llywodraethwyr ysgolion – gan ddefnyddio eu profiad a’u harbenigedd i helpu i lywio perfformiad ysgolion.

Cymuned a busnes – busnes pawb

Bues i’n ddigon ffodus i dreulio cyfnod yn ystod fy ngradd ym Mhrifysgol Missouri.

Yn St Louis, maen nhw’n trin ymgysylltu dinesig yn gwbl o ddifri.

Mae Prif Swyddogion Gweithredol, Gweithredwyr, Llywyddion Prifysgol ac ati wedi dod ynghyd fel sefydliad o’r enw Civic Progress.

Trwy hyn, maen nhw’n cydweithio i wella ansawdd bywyd, addysg a busnesau ledled y ddinas.

Wrth godi safonau ysgolion, maen nhw wedi ymroi i wneud y defnydd gorau o’u harbenigedd a’u hadnoddau.

Felly, maen nhw’n canolbwyntio ar ddatblygu arweinyddiaeth, cymorth ar gyfer rheoli a threfniadaeth ariannol, a rhaglenni amrywiol i leihau anghydraddoldeb a chefnogi cyrhaeddiad. Mae angen rhywfaint o ysbryd St Louis arnom ni yma yng Nghymru.

Mewn ffordd wahanol, ond nid annhebyg, rydym wedi ceisio ehangu cynnwys a chyfraniadau wrth lywio ein cwricwlwm newydd y tu hwnt i addysgwyr.

Dull tipyn gwahanol i’r wythdegau, pan wnaeth Brian Griffiths, yr Arglwydd Griffiths heddiw wrth gwrs, gynghori Mrs Thatcher y dylent ymgynnull criw o haneswyr am benwythnos er mwyn datrys y cwricwlwm hanes!

Rydym yn cyd-greu gyda’r proffesiwn addysg, ond hefyd gydag arbenigwyr a rhai â diddordeb y tu hwnt i fyd addysg.

Felly, mae gennym swyddfeydd isgenhadon a llysgenhadon yn cyfrannu at ieithoedd modern; mae sefydliadau fel Stonewall ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn gysylltiedig ag iechyd a llesiant; ac mae cynrychiolwyr o fyd diwydiant yn ymwneud â’n Rhwydwaith Cenedlaethol Rhagoriaeth mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Ac mae ein cynlluniau uchelgeisiol i gyflwyno clybiau codio mewn ysgolion ledled Cymru wedi’u cefnogi gan gwmnïau fel Barefoot Computing a’r Big Learning Company.

Yn wir, y Big Learning Company yw’r ysgogiad y tu ôl i’r Tramshed Tech yn Grangetown, mewn partneriaeth â Lego Education, ac maen nhw’n gweithio i helpu i ddatblygu sgiliau codio a digidol yn y cwricwlwm.

Rhieni – busnes pawb

Rydw i wedi cyfeirio tipyn at gael rhai o’r tu allan i gyfrannu at godi safonau yn yr ystafell ddosbarth.

Wrth gwrs, gwyddom mai’r dylanwad mwyaf ar gyrhaeddiad yw ansawdd yr addysgu a chyfraniad y rhieni.

Mae ymchwil gan Brosiect Ymchwil i’r Teulu Harvard yn awgrymu bod plant dosbarth canol wedi elwa ar 6,000 yn fwy o oriau dysgu na’u cyfoedion dan anfantais erbyn iddyn nhw gyrraedd eu pen-blwydd yn un ar ddeg.

Mae hyn yn arwain at fwlch o ran cyfle, uchelgais a chyrhaeddiad yn rhy aml o lawer.

Sgileffeithiau hyn yw ein bod ni’n methu sicrhau bod gan bob plentyn y sgiliau a’r wybodaeth i gystadlu a llwyddo. Mae’n methu â darparu cyflogwyr, entrepreneuriaid ac arweinwyr gwell at y dyfodol.

Ond ddylem ni ddim llaesu dwylo. Allwn ni ddim derbyn hyn fel ffordd o fyw.

Yn y Morfa - un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Llanelli a Sir Gâr -  maen nhw’n cydnabod eu bod nhw’n aml yn gorfod mynd i’r afael â phrofiadau negyddol rhieni o’r ysgol yn y lle cyntaf.

Gan weithio gydag asiantaethau eraill, a’r coleg addysg bellach lleol, mae rhieni’r Morfa yn elwa ar hyfforddiant yn ogystal â chyfleoedd dysgu wedi’u teilwra i’w profiad eu hunain mewn lleoliadau anffurfiol. Dyma’r sbardun ar gyfer gwella yn yr ysgol.

Mae’r dulliau hyn wedi’u hategu gan ymchwil a data i alluoedd dysgu fel teulu.

Mae hyn, yn ei dro, yn cefnogi’r syniad o dargedu’n effeithiol adnoddau ac ymyriadau ar lefel disgybl a’r teulu. Mae’n cynnwys rhieni wedi’u hyfforddi fel Mentoriaid Mathemateg er mwyn darparu ymyriadau mathemateg i rieni eraill. Mae ysgolion eraill Cymru yn defnyddio’r dull gweithredu hwn – law yn llaw â defnydd arloesol o gyllid y Grant Datblygu Disgyblion.

Daeth Mr Cudd, pennaeth y Morfa, draw i roi cyflwyniad i fy mwrdd polisi gweinidogol yn gynharach eleni, a bydd yn rhoi cyflwyniad yn yr American National Community Schools Forum yng Nghaliffornia fis nesaf.

Rwy’n dweud hyn yn aml – ond i fod gyda’r gorau, rhaid i Gymru ddysgu gan y gorau. Ond rydw i hefyd yn falch pan mae ein mentrau ni’n ennyn parch a diddordeb ymysg y gymuned addysg ryngwladol.

Athrawon – busnes pawb

Enghraifft arall sydd wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol yw ysgol Fern Federation ym Mhontypridd. Yn ystod ymweliad diweddar OECD â Chymru, cafodd y dysgu a’r hyfforddi proffesiynol sy’n digwydd yno eu cydnabod fel rhai sy’n torri tir newydd.

Trwy ddefnyddio dulliau arsylwi byw a digidol ar yr ystafell ddosbarth, mae athrawon Fern Federation yn gallu rhannu a derbyn adborth uniongyrchol, rhannu gwersi a llwyth gwaith a meithrin ymarfer ymchwil a datblygiad proffesiynol trylwyr.

I mi, yr athrawon eu hunain ddylai fod y myfyrwyr mwyaf ymroddedig yn yr ystafell ddosbarth - yn dysgu oddi wrth ei gilydd, o waith ymchwil ac arferion gorau, boed yn yr ystafell ddosbarth drws nesaf, yn y sir nesaf neu’r wlad nesaf.

Bydd hyn yn creu manteision ledled ein system addysg, gan godi safonau ar draws y bwrdd.

Mae pob addysgwr da yn gwybod y byddant yn addysgu gwersi gwell yfory o gymharu â ddoe, diolch i’r ffaith syml eu bod yn dysgu drwy’r amser. Rhaid i athrawon fod yn fyfyrwyr gydol oes. A rhaid iddo fod yn ymdrech unigol a chyfunol.

Gwelodd Prifysgol Stanford mewn blwyddyn o addysg, fod y 10% o athrawon gorau wedi cyfrannu deirgwaith yn fwy o ddysgu na’r 10% gwaethaf. Ond mae’n rhaid i ni chwalu’r myth fod athrawon gwych yn cael eu geni, nid eu creu.

Mae athrawon yn gwella trwy fyfyrio ar eu profiadau eu hunain, trwy ddysgu gan gydweithwyr, trwy ymgysylltu â’r holl ddisgyblion a gwaith ymchwil a thrwy sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y pwnc dan sylw a’r dulliau dysgu.

Mae llawer o hyn yn dibynnu ar eu cymhelliant a’u hymroddiad eu hunain, ond mae yna rôl hefyd i golegau a phrifysgolion, y consortiwm rhanbarthol, yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol newydd, penaethiaid ac i rieni ddisgwyl bod athrawon bob amser yn dysgu a gwella.

Casgliad

Hefyd, wrth gwrs, rydw i am weld mwy o gyfraniad gan israddedigion a phrifysgolion fel y soniais eisoes.

Ond rydw i hefyd yn bwriadu ailwampio ein rhaglen athrawon dan hyfforddiant er mwyn denu mwy o fyfyrwyr hŷn o’r radd flaenaf i addysgu, gan gyflwyno profiadau ac arbenigedd newydd a gwahanol.

Maes o law, byddaf hefyd yn cyhoeddi cynlluniau peilot newydd i gefnogi mwy o ddefnydd o reolwyr busnes – sy’n rhoi cymorth penodol i arweinwyr ac athrawon, fel eu bod yn canolbwyntio’n well ar godi safonau.

Ac rydym eisoes wedi dechrau ar y gwaith – mewn partneriaeth – i fanteisio ar y cyfle i ddatganoli cyflog ac amodau athrawon. Dim mwy o ‘gweler Lloegr ar gyfer Cymru’.

Yn hytrach, dull gwirioneddol genedlaethol sydd nid yn unig yn cynnig cyflog cyfartal ond yn sefydlu ymagwedd genedlaethol tuag at ddysgu proffesiynol, safonau proffesiynol newydd, llai o fiwrocratiaeth, safonau dysgu newydd, asesiadau ffurfiannol, a  rhyddid i athrawon ddefnyddio eu gwybodaeth a’u proffesiynoldeb eu hunain.

Rwy’n ymwybodol iawn o’r grymoedd ceidwadol sy’n ffafrio’r status quo. Gan ddangos diffyg dewrder i ymddiried ynddynt eu hunain, i ymddiried yn niwygiadau Cymru.

Ac wrth ddweud ‘ceidwadol’, nid cyfeirio at y Torïaid ydw i. Er, efallai y byddai disgrifiad Thomas Paine o rymoedd ceidwadol fel rhywbeth creulon weithiau, ond byth yn ddewr, yn addas yn y cyd-destun hwn.

Ond fel y dywedodd Paine yn yr un traethawd, nid nawr yw’r amser i gilio rhag gwasanaeth cenedlaethol.

Nid hawdd o beth yw diwygio addysg, codi safonau a chyflawni ar ddisgwyliadau uchel.

Ond gwyddom nad yw rhywbeth a gyflawnir yn rhwydd yn destun cymaint o ddathlu.

Caleta’n byd y gweithiwn ni, mwya’n byd fydd y pwyslais diflino ar godi safonau i bawb, a mwya’n byd y boddhad a gawn wrth gyrraedd ein nod cenedlaethol.

Mae addysg yn bwysig oherwydd ei fod yn newid bywydau.

Mae’n bwysig am ei fod yn cynnig cyfleoedd, gobaith a rhyddid rhag rhagfarn.

Mae’n creu cymdeithasau, cymunedau ac economïau gwell a chryfach.

Mae ein nod cenedlaethol yn bwysig i bawb yng Nghymru. Yn syml, mae’n fusnes i bawb.