Niferoedd staff ysgol sydd wedi derbyn brechiad: Chwefror 2022
Dadansoddiad yn defnyddio data cysylltiedig i amcangyfrif y nifer o athrawon a staff cymorth sydd wedi derbyn brechiad yng Nghymru ar gyfer Chwefror 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r dadansoddiad hwn yn cysylltu'r Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion (CBGY) a'r Ased Data Parod Ymchwil ar gyfer Brechiadau COVID-19 (RRDA_CVVD) ym Manc Data SAIL. Fe'i cynhaliwyd gan yr Uned Ymchwil Data Gweinyddol o fewn Llywodraeth Cymru.
Y prif ganlyniadau
Ers 7 Rhagfyr 2020 mae Cymru wedi arwain rhaglen frechu gyflym i leihau salwch a nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID-19. Mae'r dadansoddiad canlynol yn ymdrin â brechiadau a gofnodwyd rhwng 7 Rhagfyr 2020 a 1 Chwefror 2022. Er i'r mwyafrif o'r boblogaeth 12 oed a throsodd gael cynnig dau brif ddos ynghyd â dos atgyfnerthu, argymhellwyd y dylai unigolion â system imiwnedd wan iawn gael trydydd prif ddos. Yn y dadansoddiad hwn, mae unigolion wedi'u cyfrif unwaith yn unig yn erbyn y dos uchaf y maent wedi'i gael.
Ar gyfer yr holl aelodau o staff ysgolion yng Nghymru ar 1 Chwefror 2022:
- amcangyfrifir bod 37,990 wedi cael brechiad atgyfnerthu cyntaf (A1), roedd hyn yn cyfateb i 82.3% o'r holl staff, gan gynnwys 84.3% o'r holl athrawon (18,395) ac 80.4% o'r holl staff cymorth (19,950)
- y ganran a oedd wedi cael y dos cyntaf o'r brechlyn unig oedd 1.0% (445), roedd 11.7% (5,390) wedi cael dau ddos yn unig, roedd 1.6% (755) wedi cael trydydd prif ddos (ond dim dos atgyfnerthu); nid oedd unrhyw frechiadau wedi'u cofnodi ar gyfer 3.4% (1,570) o staff ysgolion.
- canran y staff a oedd wedi cael trydydd dos neu ddos atgyfnerthu gyda'i gilydd oedd 83.9% (38,740); roedd y ganran hon yn amrywio rhwng awdurdodau lleol, gyda'r ganran uchaf a oedd wedi cael y dosau hyn, sef 88.2% (870), yn cael ei chofnodi ym Mlaenau Gwent a'r ganran isaf, sef 78.1% (1,580), yn cael ei chofnodi yng Nghastell-nedd Port Talbot
- roedd nifer yr aelodau o staff a oedd wedi cael eu brechu hefyd yn amrywio yn ôl rôl staff, gyda'r categori ‘arweinyddiaeth’ yn cofnodi'r ganran uchaf a oedd wedi cael trydydd dos neu ddos atgyfnerthu cyntaf, sef 92.1% (2,585), o gymharu ag 80.3% (645) o'r rhai yn y categori ‘athrawon eraill’
Nifer staff ysgolion sydd wedi cael eu brechu yn ôl sector
- Ar y cyfan, roedd nifer yr unigolion a oedd wedi cael eu brechu yn eithaf cyson rhwng sectorau ysgol.
- Ar 1 Chwefror 2022, amcangyfrifir bod 21,800 o aelodau o staff ysgolion meithrin a chynradd wedi cael naill ai eu trydydd dos neu frechiad atgyfnerthu cyntaf. Mae hyn yn cyfateb i tua 83.1% o holl staff ysgolion yn y sector hwn.
- Ar gyfer yr holl staff mewn ysgolion canol, roedd 83.9% (1,585) wedi cael naill ai trydydd dos neu ddos atgyfnerthu cyntaf ac ar gyfer staff ysgolion uwchradd y ffigur hwn oedd 85.2% (12,500).
- Yn yr un modd, ar gyfer staff mewn ysgolion arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCDau) roedd 84.3% (2,860) wedi cael naill ai eu trydydd dos neu frechiad atgyfnerthu cyntaf.
- Dangosir dadansoddiad manylach o nifer y brechiadau yn ôl sector yn Siart 3.
Nifer staff ysgolion sydd cael eu brechu yn ôl demograffeg
- Ar 1 Chwefror 2022, amcangyfrifir bod 32,555 o aelodau benywaidd o staff ysgolion wedi cael naill ai trydydd dos neu ddos atgyfnerthu cyntaf. Roedd hyn yn cyfateb i 83.5% o'r hol aelodau benywaidd o staff ysgolion.
- Ar gyfer aelodau gwrywaidd o staff ysgolion, roedd 6,185 wedi cael naill ai eu trydydd dos neu ddos atgyfnerthu, sef 85.8% o'r holl aelodau gwrywaidd o staff ysgolion.
- Dengys cyfraddau brechu oedran-benodol fod cyfran y rhai sydd wedi cael y trydydd dos a'r dos atgyfnerthu yn cynyddu gydag oedran. Ar gyfer y rhai yn y categori o dan 25 oed roedd y ganran hon ar ei hisaf, sef 68.% (1,020) o gymharu â 94.1% (3,440) ar gyfer y rhai yn y categori 60 oed a throsodd.
- Fodd bynnag, y rhai yn y categori o dan 25 oed oedd â'r ganran uchaf gyda dim ond dau ddos, sef 25.1% (375), wedi'u dilyn gan y rhai 25-29 oed ar 22.1% (940).
- O'r aelodau hynny o staff ysgolion a nododd fod ganddynt gyflwr neu salwch corfforol neu iechyd meddwl a oedd wedi para 12 mis neu fwy neu yr oedd disgwyl iddo bara 12 mis neu fwy, roedd 91.7% (400) wedi cael naill ai'r trydydd dos neu ddos atgyfnerthu, o gymharu ag 83.8% (36,075) o'r rhai a roddodd ateb negyddol i'r cwestiwn hwn.
- Mae'r data ar gyfraddau brechu yn ôl ethnigrwydd yn seiliedig ar niferoedd bach ac, felly, dylid eu dehongli'n ofalus. Yn y categorïau ‘gwrthodwyd rhoi gwybodaeth’ ac ‘ni chafwyd y wybodaeth’ y cofnodwyd y ganran uchaf o'r rhai a oedd wedi cael eu trydydd dos neu ddos atgyfnerthu.
- Lle roedd ethnigrwydd wedi'i gofnodi, yn y categori ‘Gwyn’ y cofnodwyd y ganran uchaf a oedd wedi cael eu trydydd dos neu ddos atgyfnerthu, sef 84.1% (37,435). Yn y categori ‘Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig y cofnodwyd y ganran isaf, sef 55.8% (55), wedi'i ddilyn gan ‘Grwpiau Ethnig Cymysg/Lluosog’ ar 70.7% (230).
Gwybodaeth am setiau data
Mae'r dadansoddiad hwn yn seiliedig ar ddata dienw a gedwir yn y system Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), sy'n rhan o seilwaith ymchwil cofnodion e-iechyd cenedlaethol Cymru. Cafodd yr holl ddata eu hanonymeiddio cyn eu cael a'u defnyddio o fewn yr amgylchedd diogel a ddarparwyd gan Fanc Data SAIL.
Caiff Asedau Data Parod Ymchwil (RRDA) eu paratoi a'u cynnal gan y tîm Gwyddor Data Poblogaeth, Ymchwil Data Iechyd y DU ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r Ased Data Parod Ymchwil ar gyfer Data Brechu COVID-19 (RRDA_CVVD) yn cwmpasu pob claf a phob brechlyn a roddir neu y bwriedir ei rhoi ar gyfer COVID-19, yn GIG Cymru neu a ariennir gan GIG Cymru.
Mae'r Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion (CBGY) yn cynnwys dau gasgliad data ac mae'n cwmpasu blynyddoedd academaidd 2018/2019 a 2020/21. Y cyntaf yw data ar gontractau a chyflog gan awdurdodau lleol a'r ail yw data ar y gweithlu yn uniongyrchol gan ysgolion. Mae'r ddau gasgliad data yn cynnwys cofnodion staff sy'n gorgyffwrdd ac nad ydynt yn union yr un peth. Felly, gall rhai aelodau o staff ymddangos ar y naill gasgliad data ond nid ar y llall. Ar gyfer y dadansoddiad hwn defnyddiwyd y data a gafwyd yn uniongyrchol gan ysgolion ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21, mae hyn yn gyson â'r fethodoleg ar gyfer cynhyrchu ffigurau cyfrif pen ar gyfer Staff Ysgolion (Gweler yr adroddiad ar y ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: gwybodaeth gefndir’ am fanylion pellach am set ddata CBGY.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Mae'r Uned Ymchwil Data Gweinyddol yn Llywodraeth Cymru yn cynnal prosiectau ymchwil er budd y cyhoedd gan ddefnyddio setiau data gweinyddol sefydledig. Yn ystod pandemig y Coronafeirws (COVID-19), mae'r Uned wedi cynnal nifer o brosiectau cysylltu data. Ar gyfer y dadansoddiad hwn, cysylltwyd y Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion (CBGY) ar gyfer 2020/21 a'r Ased Data Parod Ymchwil ar gyfer Brechiadau COVID-2020 (RRDA_CVVD) ym Manc Data SAIL.
Mae'r RRDA_CVVD yn ffynhonnell wedi'i glanhau o ddata brechu COVID-19 a grëwyd yn benodol ar gyfer gwaith dadansoddi ac ymchwil. Mae ffigurau brechu a ddefnyddiwyd ar gyfer y dadansoddiad hwn fel y'u tynnwyd ar 01/02/2022. Ni chynhwyswyd brechlynnau a gafwyd ar ôl y dyddiad hwn. Caiff ffigurau ar gyfer nifer y bobl sydd wedi'u brechu eu newid yn rheolaidd oherwydd diweddariadau mynych i set ddata RRDA_CVVD.
Yn set ddata RRDA_CVVD caiff canran fach o gofnodion eu hepgor am nad ydynt yn dilyn un o'r rheolau brechu canlynol:
- Wedi'u brechu yn y DU h.y. byth dramor
- Wedi'u brechu fel rhan o'r rhaglen frechu h.y. byth fel rhan o dreial
- Enw'r brechiad yw: Pfizer Biotech o 7 Rhag 2021, AstraZeneca o 4 Ion 2021, Moderna (neu Moderna half) o 4 Ion 2021, Janssen o 1 Maw 2021, Novavax o 1 Ion 2023
- Mae'r dyddiad brechu cyn y *dyddiad presennol*
- Ar gyfer cofnod â sawl brechiad: Rhaid i bob dos fod o leiaf 20 diwrnod ar ôl yr un blaenorol
- Rhaid i drefn y dosau fod yn ddilyniannol e.e. dim ail ddos cyn y dos cyntaf, ni ddylai mwy nag un ail ddos fod wedi'i gofnodi
Casgliad ar lefel unigol yw'r CBGY ac, felly, mae'n bosibl y bydd rhai achosion lle bydd aelod o'r gweithlu wedi'i gofnodi yn erbyn nifer o rolau yn yr un ysgol neu mewn nifer o ysgolion. Ar gyfer y dadansoddiad hwn fel rhan o'r broses gysylltu a chyfuno, lle y bo'n bosibl caiff gwybodaeth yr athrawon hynny sydd â mwy nag un rôl (e.e. y rhai sy'n gweithio'n rhan-amser mewn dwy ysgol) ei chyfuno'n un cofnod a'i chofnodi yn erbyn y raddfa uchaf ar gyfer yr athro unigol hwnnw.
Yn yr un modd, gyda chofnodion croes o oedran sy'n ymwneud â'r un unigolyn, er mwyn osgoi gorgyfrif, mae'r oedran uchaf a gofnodwyd wedi'i ddewis ar gyfer yr unigolyn hwnnw. Effeithiodd hyn ar nifer bach iawn o gofnodion ac, felly, roedd yn annhebygol o greu tuedd arwyddocaol. Ar gyfer nodweddion eraill gan gynnwys ethnigrwydd ac anabledd, lle y nodwyd mwy nag un categori dim ond un sydd wedi'i gynnwys.
Cysylltir setiau data drwy ddefnyddio meysydd cysylltu dienw (ALFs). Dim ond ar gyfer aelodau o staff sy'n byw yng Nghymru mae'r rhain ar gael, mae unigolion nad ydynt yn byw yng Nghymru wedi'u hepgor. Lle mae aelodau o'r gweithlu wedi cael brechlynnau a roddwyd y tu allan i Gymru, gall y rhain ymddangos fel petaent wedi cael dim dosau a gofnodwyd. O ganlyniad, mae'n debygol y bydd ffigurau a ddangosir yn goramcangyfrif nifer yr unigolion â dim dosau mewn Awdurdodau Lleol ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Bydd amcangyfrifon cyfrif pen staff yn is na ffigurau cyfrif pen CBDY sydd wedi'u cyhoeddi rywle arall gan fod tua 84 y cant o gofnodion CBDY wedi'u paru'n llwyddiannus â set ddata RRDA_CVVD (gweler canlyniadau cyfrifiad gweithlu ysgolion am y ffigurau cyfrif pen diweddaraf)
Dangosir ffigurau cyfrif pen wedi'u talgrynnu i'r 5 agosaf. Bwriedir i dalgrynnu atal gwybodaeth bersonol rhag cael ei datgelu. Fodd bynnag, mae canrannau wedi'u cyfrifol gan ddefnyddio rhifau crai manwl gywir.
Cafodd y data eu trin yn SQL DB2 ac MS Excel ym Manc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL).
Mae'r ymchwil hon wedi'i gwneud rhan fel o raglen waith Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru. Mae rhaglen waith YDG Cymru yn cyd-fynd â'r themâu â blaenoriaeth fel y'u nodir gan Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Mae YDG Cymru yn dod ag arbenigwyr ym maes gwyddor data yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, staff o Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd Cymru, Data a Dulliau (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd a thimau arbennig at ei gilydd i ddatblygu tystiolaeth newydd drwy ddefnyddio Banc Data SAIL ym Mhrifysgol Abertawe, er mwyn cysylltu a dadansoddi data dienw. Mae YDG Cymru yn rhan o'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU) a ariennir gan ADR UK (grant ES/S007393/1).
Mae'r gwaith hwn yn defnyddio data a ddarparwyd gan gleifion ac a gasglwyd gan y GIG fel rhan o’u gofal a’u cymorth. Hoffem hefyd gydnabod yr holl ddarparwyr data sy’n darparu data dienw ar gyfer ymchwil.
Rydym am gydnabod y bartneriaeth gydweithredol a'n galluogodd i gael a gweld y data dienw, a arweiniodd at yr allbwn hwn. Arweiniwyd y cydweithrediad gan dîm Ymchwil Data Iechyd y DU ym Mhrifysgol Abertawe o dan gyfarwyddyd Cell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru ac mae'n cynnwys y grwpiau a'r sefydliadau canlynol: Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru gynt), Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cydwasanaethau'r GIG ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Mae'r holl ymchwil wedi'i gwneud gyda chaniatâd a chymeradwyaeth Panel Adolygu Llywodraethu Gwybodaeth annibynnol SAIL rhif prosiect 0911.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Kathryn Helliwell
Ffôn: 0300 062 8349
Email: ADRUWales@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 97/2022