Neidio i'r prif gynnwy

Data ar brofion, achosion newydd, buchesi o dan gyfyngiadau a gwartheg a laddwyd â TB buchol ar y gyfer Medi 2018.

Nifer y buchesi ag achosion newydd o TB

Siart yn dangos y tueddiad o ran achosion mewn buchesi newydd ers 2008. Roedd 751 o achosion newydd yn ystod y 12 mis hyd Medi 2018, sy’n ostyngiad o 3% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol.

  • Yn y 12 mis hyd at fis Medi 2018, cofnodwyd 751 o fuchesi ag achosion newydd o TB yng Nghymru.
  • Dyma ostyngiad o 3% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gofnodwyd 778 o achosion.
  • Mae’r duedd gyffredinol ers 2009 yn fras am i lawr. Er hynny, nid yw’n gyson a chafwyd cyfnodau pan fu’r duedd ar i fyny a chyfnodau pan fu’r duedd am i lawr.

Anifeiliaid gafodd eu difa i reoli TB

Siart yn dangos y tueddiad o ran anifeiliaid a gafodd eu difa er mwyn rheoli TB yng Nghymru ers 2008. Cafodd 9,965 o anifeiliaid eu difa yn ystod y 12 mis hyd Medi 2018, sy’n gynnydd o 3% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol.

  • Yn y 12 mis hyd at fis Medi 2018, cafodd 9,965 o wartheg eu lladd i reoli TB Gwartheg.
  • Dyma gynnydd o 3% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gafodd 9,703 o wartheg eu lladd.
  • Mae’r duedd gyffredinol yn amrywio. Gellir priodoli llawer o’r cynnydd diweddar ers 2014 i’r defnydd cynyddol o brofion sensitif iawn. Er enghraifft, mae profion gama, gwaredu Adweithyddion Amhendant a dehongli manwl o’r prawf croen oll wedi’u defnyddio er mwyn ceisio gwaredu heintiau a lleihau’r perygl y gallai’r clefyd ledu ac y gallai achosion o’r clefyd ddigwydd eto.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.