Neidio i'r prif gynnwy

Data ar brofion, achosion newydd, buchesi o dan gyfyngiadau a gwartheg a laddwyd â TB buchol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddiadau blaenorol

Rhagor o wybodaeth

Mae’r ffigurau chwarterol yn amrywio am nifer o resymau gan gynnwys natur dymhorol TB, effaith tywydd anarferol, nifer y dyddiau darllen profion mewn mis, effaith buchesi lle mae nifer fawr o anifeiliaid yn cael eu difa mewn mis ac ati.  Nid yw’r data wedi’u haddasu’n dymhorol, felly dylid cymryd gofal wrth gymharu chwarter â chwarter.

Mae’r ystadegau hyn yn rhan o gyfres o allbynnau sy’n cael eu defnyddio i fonitro TB yng Nghymru.  I weld dadansoddiad manylach o’r tueddiadau hyn, mae dangosfwrdd chwarterol TB Cymru yn dangos dyrnaid o ystadegau allweddol. 

Amledd adrodd

Cynhaliodd Defra Arolwg Defnyddwyr Ystadegau yn ystod yr haf i ymgysylltu â defnyddwyr a cheisio adborth ar gyhoeddiadau Twbercwlosis Buchol (bTB). Arolwg oedd hwn ac nid ymarfer ymgynghori ffurfiol, sy'n gyson â'r canllawiau a gyflwynir yn y Cod Ymarfer Ystadegau. Prif nod yr ymarfer hwn oedd mesur cefnogaeth o symud amlder adrodd o fis i chwarter.

Mae Defra yn bwriadu dod â'r datganiadau ystadegau swyddogol wyth misol a gyhoeddir bob blwyddyn i ben. Ymgynghorwyd â'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau hefyd ac nid oes ganddynt unrhyw bryderon rheoliadol fel o dan y Cod Ymarfer mae gan gynhyrchwyr ystadegau (Defra) gyfrifoldeb i adolygu a ddylid parhau, terfynu neu addasu eu datganiadau.

Cyhoeddiad ystadegau misol bTB Awst 2020 (y datganiad hwn) fydd y cyhoeddiad misol olaf, fodd bynnag, mae datganiadau chwarterol yn parhau gyda'r datganiad chwarterol nesaf i'w gyhoeddi ym mis Rhagfyr. Bydd data misol yn dal i gael ei ddarparu yn y cyhoeddiad chwarterol ond dim ond bob chwarter, yn debyg i ddangosfwrdd gwyliadwriaeth TB Llywodraeth Cymru. Oherwydd anwadalrwydd y data misol, ni ellir ystyried diweddariadau misol yn rhagfynegydd dibynadwy o'r tueddiadau cyffredinol.