Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae datganiad Ystadegau Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn cynnwys ystadegau ar sail yr ardaloedd TB yng Nghymru, ac mae'r pennawd ystadegol hwn yn seiliedig arno.

Nifer y buchesi ag achosion newydd o TB

Ffigur 1: Buchesi ag achosion newydd o TB yng Nghymru, Ionawr 2008 i Fehefin 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart llinell a bar yn dangos y tueddiad o ran achosion newydd mewn buchesi yng Nghymru ers 2008. Mae’r bariau glas golau yn nodi nifer yr achosion newydd bob mis tra bo’r llinell dywyll yn nodi cyfartaledd treigl o achosion newydd dros 12 mis.

Roedd 604 o achosion newydd yn ystod y 12 mis hyd at fis Mehefin 2024, sy’n ostyngiad o 0.8% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan oedd 609 o achosion newydd.

Anifeiliaid gafodd eu lladd i reoli TB

Ffigur 2: Anifeiliaid a laddwyd i reoli TB yng Nghymru, Ionawr 2008 i Fehefin 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart llinell a bar yn dangos y tueddiad o ran anifeiliaid sydd wedi cael eu lladd yng Nghymru ers 2008. Mae’r bariau glas golau yn nodi nifer yr anifeiliaid a gafodd eu lladd bob mis tra bo’r llinell dywyll yn nodi cyfartaledd treigl yr anifeiliaid a gafodd eu lladd dros 12 mis.

Cafodd 11,789 o anifeiliaid eu lladd yn ystod y 12 mis hyd at fis Mehefin 2024, sy’n gynnydd o 23.8% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gafodd 9,525 anifeiliaid eu lladd.

Rhagor o wybodaeth

Mae'r duedd gyffredinol ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu lladd oherwydd rheolaeth TB buchol yn amrywiol. Gellir priodoli llawer o’r cynnydd diweddar ers 2014 i’r defnydd cynyddol o brofion sensitif iawn. Er enghraifft, mae profion gama, gwaredu Adweithyddion Amhendant a dehongli manwl o’r prawf croen oll wedi’u defnyddio er mwyn ceisio gwaredu heintiau a lleihau’r perygl y gallai’r clefyd ledu ac y gallai achosion o’r clefyd ddigwydd eto.

Mae'r gyfres fisol yn amrywiol, a gellir disgwyl ambell frig.  Bu cynnydd yn y duedd nes cyrraedd yr uchafbwynt ym mis Hydref 2018. Cyhoeddwyd dadansoddiad pellach o'r duedd hon hyd at fis Mehefin 2019 yn yr erthygl ystadegol: Dadansoddiad o'r nifer o anifeiliaid gafodd eu lladd i reoli TB, Hydref 2018 i Fehefin 2019.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Jimmy Webster
E-bost: ystadegau.amaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099