Neidio i'r prif gynnwy

Data ar brofion, achosion newydd, buchesi o dan gyfyngiadau a gwartheg a laddwyd â TB buchol ar y gyfer Mawrth 2021.

Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn cynnwys ystadegau ar sail yr ardaloedd TB yng Nghymru, ac mae'r pennawd ystadegol hwn yn seiliedig arno.

Cwblhawyd 4% yn llai o brofion TB yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2021 o'i gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol. Mae cyfran o'r rhain oherwydd profion hwyr. Dim ond pan ystyriwyd ei bod yn ddiogel gwneud hynny wrth gynnal pellter cymdeithasol y cynhaliwyd profion.

Nifer y buchesi ag achosion newydd o TB

Image
Siart yn dangos y tueddiad o ran achosion mewn buchesi newydd ers 2008. Roedd 630 o achosion newydd yn ystod y 12 mis hyd Mawrth 2021, sy’n ostyngiad o 2% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol.

Yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2021, cofnodwyd 630 o fuchesi ag achosion newydd o TB yng Nghymru. Dyma ostyngiad o 2% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gofnodwyd 644 o achosion newydd.

Anifeiliaid gafodd eu difa i reoli TB

Image
Siart yn dangos y tueddiad o ran anifeiliaid a gafodd eu difa er mwyn rheoli TB yng Nghymru ers 2008. Cafodd 10,258 o anifeiliaid eu difa yn ystod y 12 mis hyd Mawrth 2021, sy’n ostyngiad o 11% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol.

Yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2021, cafodd 10,258 o wartheg eu lladd i reoli TB Gwartheg. Dyma ostyngiad o 11% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gafodd 11,559 o wartheg eu lladd.

Rhagor o wybodaeth

Mae'r duedd gyffredinol ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu lladd oherwydd rheolaeth TB buchol yn amrywiol. Gellir priodoli llawer o’r cynnydd diweddar ers 2014 i’r defnydd cynyddol o brofion sensitif iawn. Er enghraifft, mae profion gama, gwaredu Adweithyddion Amhendant a dehongli manwl o’r prawf croen oll wedi’u defnyddio er mwyn ceisio gwaredu heintiau a lleihau’r perygl y gallai’r clefyd ledu ac y gallai achosion o’r clefyd ddigwydd eto.

Fel y dengys yn y siart, mae’r gyfres fisol yn hynod o amrywiol, a gellir disgwyl adegau a brigau o bryd i’w gilydd. Bu cynnydd yn y tuedd ers cyrraedd yr uchafbwynt ym mis Hydref 2018 hyd ddiwedd 2019. Cyhoeddwyd dadansoddiad pellach o’r duedd hon ar ffurf erthygl ystadegol: Dadansoddiad o'r nifer o anifeiliaid gafodd eu difa i reoli TB, Hydref 2018 i Mehefin 2019.

Amledd adrodd

Cyhoeddiad ystadegau misol bTB Awst 2020 oedd y cyhoeddiad misol olaf, fodd bynnag, mae datganiadau chwarterol yn parhau. Bydd data misol yn dal i gael ei ddarparu yn y cyhoeddiad chwarterol ond dim ond bob chwarter, yn debyg i ddangosfwrdd gwyliadwriaeth TB Llywodraeth Cymru. Oherwydd anwadalrwydd y data misol, ni ellir ystyried diweddariadau misol yn rhagfynegydd dibynadwy o'r tueddiadau cyffredinol.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.