Data ar brofion, achosion newydd, buchesi o dan gyfyngiadau a gwartheg a laddwyd â TB buchol ar y gyfer Mawrth 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Nifer yr achosion o dwbercwlosis (TB) mewn gwartheg ym Mhrydain Fawr
Mae datganiad Ystadegau Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn cynnwys ystadegau ar sail yr ardaloedd TB yng Nghymru, ac mae'r pennawd ystadegol hwn yn seiliedig arno.
Nifer y buchesi ag achosion newydd o TB
Yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2020, cofnodwyd 643 o fuchesi ag achosion newydd o TB yng Nghymru. Dyma ostyngiad o 12% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gofnodwyd 733 o achosion newydd.
Anifeiliaid gafodd eu difa i reoli TB
Yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2020, cafodd 11,558 o wartheg eu lladd i reoli TB Gwartheg. Dyma ostyngiad o 1% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gafodd 11,660 o wartheg eu lladd.
Rhagor o wybodaeth
Mae'r duedd gyffredinol ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu lladd oherwydd rheolaeth TB buchol yn amrywiol. Gellir priodoli llawer o’r cynnydd diweddar ers 2014 i’r defnydd cynyddol o brofion sensitif iawn. Er enghraifft, mae profion gama, gwaredu Adweithyddion Amhendant a dehongli manwl o’r prawf croen oll wedi’u defnyddio er mwyn ceisio gwaredu heintiau a lleihau’r perygl y gallai’r clefyd ledu ac y gallai achosion o’r clefyd ddigwydd eto.
Fel y dengys yn y siart, mae’r gyfres fisol yn hynod o amrywiol, a gellir disgwyl adegau a brigau o bryd i’w gilydd. Bu cynnydd yn y tuedd ers cyrraedd yr uchafbwynt ym mis Hydref 2018. Cyhoeddwyd dadansoddiad pellach o’r duedd hon ar ffurf erthygl ystadegol: Dadansoddiad o'r nifer o anifeiliaid gafodd eu difa i reoli TB, Hydref 2018 i Mehefin 2019.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099